Adar Papur
gan Gareth Evans Jones
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2020

Adar Papur
gan Gareth Evans Jones
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Ystad Lenyddol Gwenlyn Parry
Sut ’dan ni’n downsio o gwmpas y gwir gymaint?
Yn feichiog, yn sengl, ac mewn swydd ddi-ddiolch, mae Sara wedi cael digon. Mae Iwan yn benderfynol o aros ar ben ei hun yn ei fyd bach diogel, ac mae Ruth yn ymgolli yn ei gardd tra bod bywyd yn prysuro’n ei flaen hebddi.
Ond pan mae llwybrau’r tri yn croesi, rhaid i Sara, Iwan a Ruth wynebu’r gwir.
Dyma ddrama newydd, obeithiol gan Gareth Evans Jones am golled, iechyd meddwl bregus a chyfeillgarwch annisgwyl – drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Cast Sion Eifion, Mirain Fflur, Judith Humphreys
Cyfarwyddwr Branwen Davies
5 Awst 2020
7yh
Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg yw Adar Papur.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

Chwith i dde: Gareth Evans Jones, Judith Humphreys, Sion Eifion, Mirain Fflur, Branwen Davies