Academi Leeway
Yn galw pobl ifanc Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Penybont a Chastell Nedd Port Talbot!
Mae Cynyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â Theatr Soar a Theatr Genedlaethol Cymru yn lansio Academi Leeway, sef academi theatr gerdd ar lawr gwlad i bobl ifanc 14 – 25 oed.
Nod Academi Leeway yw bod yn labordy i ddatblygu sioeau cerdd newydd yng Nghymru gan gynnig hyfforddiant ac ysbrydoli pobl ifanc drwy ddefnyddio deunydd newydd sbon o Gymru.
Bydd Academi Leeway yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddod â straeon ac hanesion lleol i’r llwyfan a chreu theatr gerdd newydd sydd â gwreiddiau dwfn yng Nghymru. Drwy weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o’r celfyddydau, bydd Academi Leeway yn ysgogi, yn ysbrydoli ac yn cynnig llwybrau clir i’r y dyfodol i’r bobl ifanc hynny fyddai’n dymuno cymryd rhan.
Cyfle i bobl ifanc sydd eisiau datblygu eu sgiliau creadigol, sydd â diddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerdd ac sy’n barod i wthio’r ffiniau. Cantorion, cerddorion, cyfansoddwyr, awduron, dylunwyr, beirdd, bît-bocswyr… artistiaid neu berfformwyr o unrhyw fath.
Prosiect Lansio
I lansio’r Academi, byddwn ni’n creu llyfr cân digidol sy’n llawn dop o ganeuon a darluniau o sioe gerdd newydd – a’r bwriad yw bod y cyfan wedi’i wreiddio yn hanes y Cymoedd ac wedi’i greu gan grŵp ifanc a chreadigol o’r ardal.
Bydd 6 pherson ifanc sy’n 14 – 25 oed o ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Penybont a Chastell Nedd Port Talbot yn rhan o’r prosiect lansio hwn.
Bydd y prosiect yn digwydd fis Ionawr a Chwefror 2021.
Bydd 6 pherson ifanc yn rhan o’r prosiect lansio ond mae bwriad hir-dymor i dderbyn hyd at 15 o bobl ifanc y flwyddyn i’r Academi.
—
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Academi Leeway neu’r broses ymgeisio, cysylltwch ag Angharad Lee: leewayprods@gmail.com