{150}
27 Mehefin – 11 Gorffennaf, 2015
Storfeydd y Tŷ Opera Brenhinol, Abercwmboi, Aberdâr
Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales mewn cydweithrediad ag S4C
Crëwr a Chyfarwyddwr: Marc Rees

Bydd dau gwmni theatr genedlaethol Cymru – Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales – yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf erioed, gydag un o brif artistiaid y wlad, Marc Rees, a’r darlledwr S4C i greu gwledd weledol wrth adrodd stori.
Wedi’i pherfformio yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg, bydd {150} yn dod â chyfnodau allweddol yn fyw yn stori’r 150 o ddynion, menywod a phlant o Gymru aeth i fyw i Batagonia yn 1865, ac ym mywydau’u disgynyddion heddiw.
Bydd y cynhyrchiad aml-blatfform hwn, fydd yn cyfuno perfformiadau byw yng Nghymru â ffilm a gomisiynir yn arbennig o Batagonia, yn cael ei lwyfannu yn Storfeydd y Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr – adeilad maith nad yw fel arfer yn agored i’r cyhoedd, yn agos at gartrefi llawer o’r mudwyr gwreiddiol.
Addas ar gyfer oedran 12+
Tocynnau:
£16.50 (£17.50)/ £14 Gostyngiadau (£15)
£10 ysgolion
Rhagddangosiad: £15.00 (£16) /£12.50 (13.50)
Swyddfa docynnau: 029 20 636 464 / arlein

BETH I’W DDISGWYL
Bydd y sioe yn digwydd mewn ychydig ddyddiau, felly treuliwch ychydig o amser yn dod yn gyfarwydd â’r wybodaeth bwysig hon mewn perthynas â’r cynhyrchiad fydd yn sicrhau bod eich profiad gyda ni yn gyfforddus ac yn llawn mwynhad.
Rydym wedi darparu gwybodaeth am deithio isod, fodd bynnag rydym yn awgrymu defnyddio systemau Sat Nav fel canllaw yn unig, a defnyddio’r arwyddion AA melyn sy’n agos at y lleoliad i’ch arwain.
Os ydych yn mynd i fod yn hwyr, neu os ydych ar goll, cysylltwch â ni ar y safle ar 07852673160
Bydd tocynnau ar gael i’w prynu o’r Swyddfa Docynnau ar gyfer pob perfformiad (yn amodol ar argaeledd). Sylwer mai taliadau mewn arian parod yn unig y gallwn eu derbyn ar gyfer popeth a brynir ar y safle.
Bydd {150} yn cael ei berfformio yn Storfeydd y Tŷ Opera Cenedlaethol. Cyfeiriad llawn y lleoliad yw: Parc Diwydiannol Aberaman, Aberaman, Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, CF44 6DA
Bydd y sioe yn dechrau am 1.00pm (perfformiad y prynhawn) / 7.00pm (perfformiad yr hwyr) yn brydlon. Bydd y safle ar agor o 12 canol dydd (perfformiad y prynhawn) / 6pm (perfformiad yr hwyr), ac awgrymwn eich bod yn cyrraedd y swyddfa docynnau 15 munud o leiaf cyn i’r sioe ddechrau.
Ni fydd modd i hwyrddyfodiaid ddod i mewn wedi i’r sioe ddechrau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd.
Hyd y sioe yw oddeutu 2 awr 30 munud, heb egwyl.
Bydd cyfleusterau tai bach hygyrch ar y safle.
Mae {150} yn gynhyrchiad ar ffurf promenâd, felly byddwch yn ymwybodol y byddwch yn mynd ar daith ar droed o gwmpas y gofod. Mae seddau mewn rhai mannau, a bydd cadeiriau ar gael drwy gydol y perfformiad i’r rheini sydd eu hangen.
Er bod y sioe yn cael ei pherfformio dan do yn bennaf, bydd adran ar y dechrau yn cael ei pherfformio y tu allan, felly gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd. Rydym yn awgrymu i’r gynulleidfa ddod â siwmper neu chot gan y gall hi deimlo’n oer tu fewn i’r adeilad.
Gan nad oes lluniaeth ar gael i’w brynu ar y safle, dewch â dŵr ac unrhyw fyrbrydau gyda chi. Rydym am ddiogelu’r amgylchedd, felly ewch â’ch sbwriel gyda chi pan fyddwch yn gadael.
Sylwer bydd y sioe (yn cynnwys aelodau’r gynulleidfa) yn cael ei ffilmio, ei recordio a thynnir lluniau ohoni gan National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru at ein dibenion ein hunain. Trwy ddod i weld {150} pennir eich bod wedi rhoi’r holl ganiatâd angenrheidiol i National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru er mwyn cofnodi eich presenoldeb yn {150} ac i’r cofnodi hynny gael ei ddefnyddio ym mhob cyfrwng yn fyd-eang heb gyfyngiadau.
Perfformir y sioe yn Saesneg, Cymraeg a Sbaeneg, ond bydd yn gwbl hygyrch waeth pa rai, neu sawl un o’r ieithoedd hynny yr ydych yn eu deall.
Sylwer nad yw’r cynhyrchiad yn addas i blant o dan 2 oed, oherwydd natur y cynhyrchiad a synau uchel. Mae’r rheolwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i blant bach neu fabanod i’r perfformiad. Hefyd, yn anffodus ni chaniateir cŵn ar y safle (ac eithrio Cŵn Tywys).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn y perfformiad, cysylltwch â Lowri Johnston – lowri.johnston@theatr.com / 01267 245617
TEITHIO AR Y TRÊN
Yr orsaf drenau agosaf yw Cwmbach, ac mae oddeutu 15 munud ar droed o’r lleoliad. Bydd y daith hon wedi’i nodi’n glir o’r orsaf drenau.
TEITHIO MEWN CAR
Bydd arwyddion yn cyfeirio cynulleidfaoedd i’r lleoliad wrth i chi ddynesu.
Bydd parcio am ddim gerllaw hefyd, ac eto bydd arwyddion ar gyfer hyn wrth i chi ddynesu at y lleoliad. Mae parcio am ddim i’r anabl ar gael yn agos at y fynedfa, a bydd arwyddion clir i’r man hwn.
MYNEDIAD
Mae’r safle’n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a does dim grisiau yno. Er gwaethaf natur promenâd y sioe, bydd seddau ar gael drwy gydol y perfformiad.
Mae {150} yn addas i gynulleidfaoedd 12+ oed
Bydd yr holl berfformiadau yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg gan ddefnyddio Sibrwd. Bydd gennym nifer cyfyngedig o ffonau symudol i ddefnyddio Sibrwd ar y safle, ac fe fyddwn yn dosbarthu rhain i’r rhai cyntaf bydd yn holi amdanynt ar y noson.
Sibrwd
Theatr Genedlaethol Cymru & Galactig
Mae Sibrwd yn app defnyddiol sydd yn eich caniatau i ddilyn yr hyn sy’n digwydd ar lwyfan trwy ddarparu testun ar eich ffôn symudol.
Cyfarwyddiadau
Lawwrlwythwch Sibrwd ar eich ffôn symudol ar IOS neu Android.
Wrth gyrraedd y lleoliad, rhowch eich ffôn yn y gosodiad ‘Airplane mode’ a throi’r ‘Wifi’ ymlaen. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n derbyn unrhyw alwadau ffôn i darfu ar eich mwynhad.
Bydd angen i chi gysylltu i’n rhwydwaith diwifr ni, sydd dan enw Sibrwd.
Wedi i chi gysylltu gyda Sibrwd rydych chi’n barod! Yn y brif ddewislen, dewiswch y botwm ‘perfformiad’. Bydd y sylwebaeth yn dechrau pan fydd y ddrama yn dechrau.
Bydd perfformiad â disgrifiad sain ar ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, a hynny yn Gymraeg a Saesneg.
Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rhian Lewis
Crëwr a Chyfarwyddwr: Marc Rees
Cynhyrchydd Creadigol: Siân Thomas
Awdur Ffilm: Roger Williams
Cyfarwyddwr Ffilm: Lee Haven Jones
Hanesydd Cymdeithasol: Fernando Williams
Cyfansoddwr: John Hardy Music
Coreograffydd: Angharad Harrop
Cynllunydd Goleuo: Nick Mumford
Cynllunydd Sain: Mike Beer
Cynllunydd Fideo: Ethan Forde
Cyfarwyddwr Cyswllt: Llinos Mai
Cynllunydd Gwisgoedd: Angharad Matthews
Cynllunydd Cyswllt: Cordi Ashwell
Gyda diolch i’r Tŷ Opera Brenhinol a Melin Tregwynt


“Mae fy ffrind, yr awdur teithio Chris Moss, yn disgrifio Patagonia fel ‘tirwedd eithaf y dychymyg’. Rwy’n amau a wnaeth y mudwyr gwreiddiol o Gymru a ddaeth oddi ar y Mimosa 150 mlynedd yn ôl ddychmygu y byddai eu cartref newydd yn le mor ddiffaith a digroeso. Nid gwlad y llaeth a’r mêl ydoedd, yn sicr – aeth pedwar mis heibio cyn iddyn nhw lwyddo i symud o’r traeth!
Er gwaethaf yr amgylchiadau fodd bynnag, a thrwy berthynas hollbwysig gyda’r bobl leol frodorol y Tehuelche, fe oroeson nhw a chreu’r hyn y mae Mike Pearson yn ei alw yn ‘ardd o Gymreictod yn y diffeithwch’. Bydd (150) yn mynd â’i gynulleidfa ar daith i ddangos mapio a mytholeg y drefedigaeth, ac yn cynnig darlun unigryw o’r bobl sy’n byw yno heddiw; disgynyddion yr arloeswyr cyntaf, sydd wedi creu hunaniaeth newydd 8,000 milltir i ffwrdd o ‘hen wlad’ eu tadau.”
– Marc Rees