Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r panel fydd yn ymuno â ni i drafod ceisiadau ar gyfer ein Bwrsari Artist a Chymuned: Jalisa Andrews, Dan Jones a Gwennan Mair Jones.
Mae ein Bwrsari Artist a Chymuned yn gyfle i artistiaid weithio’n greadigol gyda chymuned arbennig – boed hynny’n gymuned ddaearyddol, proffesiynol, ar-lein neu’n gymuned sy’n rhannu nodweddion o ran hunaniaeth – a rhoi cyfle i bobl yn y gymuned honno brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd ar eu bywydau.
Wedi’i hyfforddi yn Laine Theatre Arts a derbyn Ysgoloriaeth Betty Laine, mae Jalisa Andrews yn actor a dawnsiwr o Bort Talbot. Mae hefyd yn rhedeg ysgol Ddawns a Theatr i blant gyda’i gwraig. Yn ddiweddar, mae wedi cyfrannu at bodlediadau BBC Sounds ac ar-lein i BBC Sesh.
Dan Jones yw Cyfarwyddwr Artistig The Other Room. Mae hefyd wedi cyfarwyddo a chyd-sylfaeni Criticial Ambition. Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt a Chynorthwyol i Difficult Stage, Theatr Clwyd a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. Mae Dan hefyd yn gyn-aelod o Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.
Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd yw Gwennan Mair Jones. Cymuned, cynhwysiant a hygyrchedd sydd wrth wraidd gwaith Gwennan, a’r ffordd y mae’r celfyddydau yn fodd o gynnig cyfleoedd am newid o fewn cymunedau.
Ry’n ni’n edrych ymlaen at eu croesawu i’r panel. Bydd mwy o wybodaeth am ein bwrsarïau yn cael ei rhyddhau cyn bo hir. Cadwch lygad ar ein gwefan ar gyfer unrhyw ddiweddariadau.
15 Ionawr 2021