Heddiw (30 Mawrth 2015) mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi cast cynhyrchiad nesaf y cwmni, sef Pan Oedd y Byd yn Fach, drama newydd gan Siân Summers, wedi ei chyfarwyddo gan Aled Pedrick.
Bydd Sion Ifan yn dychwelyd i weithio gyda’r cwmni yn dilyn taith ddiweddar Y Fenyw Ddaeth o’r Môr ac yn ymuno ag e fydd Dyfed Cynan, Ceri Murphy a Berwyn Pearce – ill tri wedi gweithio ar gynhyrchiadau i’r cwmni yn y gorffennol. Yn cwblhau’r cast fe fydd Gareth Pierce, sy’n gweithio i’r cwmni am y tro cyntaf.
Bydd y ddrama yn agor ar y 14eg o Fai 2015 yn Neuadd Gwyn, Castell-nedd cyn teithio theatrau ledled Cymru yn ystod mis Mai a Mehefin.
Mae’r ddrama wedi ei gosod yn ystod cyfnod Streic y Glowyr yn 1984, a hefyd 30 mlynedd yn ddiweddarach.
Gaeaf 1984, gyda’r streic yn ei hanterth, mae’r esgid yn gwasgu a thensiynau’n uchel wrth i rai ddychwelyd i’r pwll.
Mewn llecyn tawel ymhell o gythrwfl y llinell biced, daw criw o fechgyn ynghyd yn gynnar un bore i ddangos eu cefnogaeth. Ond nid pawb sy’n cael croeso yno y bore hwn, ac mae un weithred dreisgar, ysgytwol yn newid eu bywydau am byth.
Meddai Aled Pedrick, Cyfarwyddwr Pan Oedd y Byd yn Fach;
“Dwi wrth fy modd heddiw ein bod yn gallu cadarnhau’r cast ar gyfer y ddrama yma. Mae’n gast hynod o dalentog ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i fwrw ati gyda’r gwaith o gychwyn ar yr ymarferion. Dyma stori sydd yn agos iawn at fy nghalon i, fel un sydd wedi ei fagu yng Nghwm Tawe ac yn fab i lowr. Cefais fy ngeni yn fuan wedi i’r streic ddod i ben ac roeddwn i yn ymwybodol yn ifanc sut y cafodd fy nghymuned ei heffeithio. Mae Siân wedi ysgrifennu sgript arbennig ac mae’n fraint i mi fod yn gweithio gyda’r cast yma, y tîm creadigol anhygoel a gyda’r cwmni.”
Bydd y tîm creadigol yn cynnwys; Cordelia Ashwell (Cynllunydd), Tim Lutkin (Cynllunydd Goleuo), Tom Recknell (Cyfansoddwr), Dyfan Jones (Cynllunydd Sain), Polly Bennett (Cyfarwyddwr Corfforol), Nia Lynn (Hyfforddiant Llais) a Kevin McCurdy (Cyfarwyddwr Ymladd).
-diwedd-
Taith Pan Oedd y Byd yn Fach
Neuadd Gwyn, Castell Nedd
14 Mai (Rhagddangosiad) ac 15-16 Mai 7:30pm
www.gwynhall.com / 0300 365 66 77
Theatr y Sherman, Caerdydd
19- 21 Mai 7:30pm
www.shermancymru.co.uk / 029 20 646 900
Y Lyric, Caerfyrddin
2-3 Mehefin 7:30pm
www.theatrausirgar.co.uk / 0845 226 3510
Talieisin, Abertawe
5-6 Mehefin 7:30pm
www.talieisinartscentre.co.uk / 01792 602060
Theatr Mwldan, Aberteifi
8-9 Mehefin 7:30pm
www.mwldan.co.uk / 01239 621200
Y Stiwt, Rhosllannerchrugog
12 Mehefin 7:30pm
www.stiwt.com 01978 841 300
Theatr Harlech
16 – 17 Mehefin 7:30pm
www.theatrharlech.com / 01766 780 667
Galeri, Caernarfon
20 Mehefin 7:30pm
www.galericaernarfon.com / 01286 685 222
Cast
Dyfed Cynan – Alun
Sion Ifan – Garyn
Ceri Murphy – Dyfed
Berwyn Pearce – Billy
Gareth Pierce – Kevin
Tîm Creadigol
Siân Summers – Awdur
Aled Pedrick – Cyfarwyddwr
Cordelia Ashwell – Cynllunydd
Tim Lutkin – Cynllunydd Goleuo
Tom Recknell – Cyfansoddwr
Dyfan Jones – Cynllunydd Sain
Polly Bennett – Cyfarwyddwr Corfforol
Nia Lynn – Hyfforddiant Llais
Kevin McCurdy – Cyfarwyddwr Ymladd
Gwybodaeth bellach:
Cysylltwch â Lowri Johnston, Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru am wybodaeth bellach: lowri.johnston@theatr.com | 01267 245617.
Bydd noson y wasg ar y 15fed o Fai am 7.30yh yn Neuadd Gwyn, Castell-nedd.