Neithiwr oedd noson gyntaf ein Clwb Drama a, wir i chi, does dim teimlad gwell yn y byd na gweld plentyn bach yn gwenu’n braf wrth ddod mewn i ystafell ymarfer, yn barod i ddysgu, sgwrsio a datblygu.
Neithiwr oedd noson gyntaf ein Clwb Drama a, wir i chi, does dim teimlad gwell yn y byd na gweld plentyn bach yn gwenu’n braf wrth ddod mewn i ystafell ymarfer, yn barod i ddysgu, sgwrsio a datblygu.
Bu 18 o blant blwyddyn 3 i 6, o Sir Gaerfyrddin, mewn ystafell ymarfer yn sillafu eu henwau gan ddefnyddio rhannau o’r corff. Sôn am chwerthin! Gwnaeth ambell symudiad fy atgoffa nad ydw i mor ystwyth ag oeddwn i (diolch am hyn Cadi!)
Gofynnais i’r plant rannu ffeithiau diddorol am eu hunain, er mwyn i bawb ddod i adnabod ei gilydd.
“Dwi mor hapus i fod yn y Clwb Drama” – dyma a ddywedodd Jac. Diolch iddo am bwysleisio pa mor bwysig ydi theatr i blant, a braint ydi cael cyfle i fod yng nghwmni plant fel Jac sydd wrth eu bodd yn perfformio.
Crëwyd bwystfilod hynod ddifyr ar ddiwedd y sesiwn. Edrychaf ymlaen yn arw i weld cymeriadau rhyfedd y bwystfilod yma’n datblygu’r wythnos nesaf!