Mi roedd ’na dipyn o fynd a dŵad i’r ysbyty cyn cael y diagnosis, ond unwaith ges i ddiagnosis mi na’th petha symud ymlaen ac roedd hi’n haws gwybod be o’n i’n gwffio.
Do’n i ddim isio eistedd yn y tŷ a gadael iddo fo gymryd drosodd – mae angen byw bywyd a chario ’mlaen i fwynhau. Ar un adeg, do’n i ddim isio mynd allan i betha, ond mynd ’nes i, ac wrth i chi fynd mae ’na un drws yn agor a hynny’n arwain at fwy o ddrysa’n agor.
Mi es i weld y ddrama ‘Perthyn’, a sefyll ar fy nhraed a deud wrth bawb yno bod gen i ddementia. O’n i ’di dechrau deud wrth bobl, ac erbyn hyn dwi’n enjoio siarad a deud wrth bobl a’r plant yn yr ysgolion. Mae hynny’n newid be mae pobl yn feddwl. Ddudodd un plentyn wrtha i – ‘Ro’n i’n ofni dementia cynt, ond dwi ddim ’i ofn o rŵan.’
Does gen i ddim byd ar bapur pan dwi’n siarad – mae bob dim yn dŵad o’r galon – a dwi’n ateb cwestiyna. Faswn i ddim ’di gneud hynny cynt, siarad yn gyhoeddus. Mae fy lleferydd i wedi dechra mynd. Weithia, dwi ddim yn gallu siarad yn dda iawn a mae ’na un neu ddau yn sbio heibio fi – ddim yn amal. Ddudodd un o ’mlaen i, ‘Ydi hi’n deall?’ Mae o’n ddigon i’ch gwylltio chi.
Dwi ’di gorfod stopio gweithio ar ôl y diagnosis, ond dwi’n cario ’mlaen i neud petha’n y tŷ a gwarchod y plant, a dwi’n ffendio ffordd i neud petha’n haws. Mae gen i memory board ac mae pob dim arno fo. Dwi’n ffendio ffyrdd gwahanol sy’n gweithio i fi. I helpu fi. I gael bwyd yn barod ar yr un pryd mae gen i timers, a dwi’n defnyddio nhw i ferwi tatws. Efo’r gwau, dwi’n sgwennu pob dim i lawr. Dwi’n cymryd mwy o amser i neud petha – ers talwm ro’n i’n llnau’r tŷ o’r top i’r gwaelod ar fy half day; rŵan mae o’n cymryd trwy’r dydd i mi llnau’r gegin – lot mwy o amser – ond rhaid i mi dderbyn na fedra i neud pethau mor handi, ac mae ’na ambell beth yn fwy stressful.
Cha i ddim defnyddio power tools rŵan, na’r strimmer, na thorri’r gwrych efo’r hedge trimmers – mi es i drwy’r cêbl. Ges i ddamwain hefyd efo’r electric knife – roedd ’na waed ym mhobman, a’r ferch yn trio helpu.
Ond dwi’n cadw’n bositif ac yn peidio meddwl bod bywyd drosodd – mae’n bwysig gneud eich gorau a pheidio rhoi fyny. Mae’r teulu’n gadael i mi neud pethau fy hun heb fynnu gneud gormod drosta i. Mae pawb yn gneud mistêc a thrio eto, a rhaid derbyn os dwi ddim yn teimlo’n saff yna dwi ddim yn ’i neud o – mynd i fyny step ladder, er enghraifft – ac mae dreifio’n y nos yn rhy anodd.
Dwi wrth fy modd yn mynd ar fy holidês. Mi fuon ni i ffwrdd bum gwaith y flwyddyn ddwytha. Dwi’n cael postcards o’r gwahanol lefydd lle da’n ni ’di bod, ac maen nhw’n gweithio fel prompt, yn helpu fi i gofio’r holidês wrth eu gweld nhw. Ew, da’n ni ’di cael amsar da i ffwrdd – mae o’n brêc i’r ddau ohonon ni – a da’n ni ’di bwcio dau wylia’n barod ar gyfer ’leni.
Mae gen i hawl fod yn ypsét weithiau, a dwi isio siarad am y peth – mae’n hawdd gneud hynny rŵan a deud na fedra i neud petha, ond dwi ddim am roi give up. Mae’n bwysig ’mod i’n cwffio a dal i neud petha. Mae pawb yn deud ‘go for it’.
So, dwi’n dal i fynd ac yn deud pan dwi angen help – sdim pwynt ’i guddio fo, mae help i gael ’mond gofyn amdano fo. Salwch ydi o fatha pob dim arall, ac mae ’na lot o support i gael. Mae pawb yn wahanol, a diagnosis pawb yn wahanol, ond dydi o ddim yn ddiwedd y byd. Cario ’mlaen – dyna sy’n bwysig.
Glenda Roberts
Cymerwch olwg ar Broject Anti Glenda: