Dros y dyddiau nesaf, bydd yr artist Stephen Kingston yn paratoi murlun yn Galeri Caernarfon, mewn ymateb i berfformiad Dawns Ysbrydion. Mae Stephen wedi ymuno â ni yma yn Theatr Gen yn ystod ymarferion y cynhyrchiad wythnos yma ac erbyn hyn mae wrthi’n dechrau ar y gwaith yn Galeri. Dyma ychydig mwy am Stephen yn ei eiriau ei hunan…
“Cefais fy hyfforddi yng Ngholeg Celf Caerdydd a Choleg Goldsmiths, Llundain. Rwyf wedi gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm fel cynhyrchydd, cyfarwyddwr a dyn camera ar amryw iawn o bynciau a rhaglenni. Wedi cadw fy angerdd at ddarlunio, yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar raddfa mwy, yn cynnwys ffurf o furluniau mewn mannau cyhoeddus.
Wedi i mi dynnu’r ddelwedd ar gyfer poster a’r flyer i’r cynhyrchiad ‘Dawns Ysbrydion’, ces y cyfle i weithie ar furlun mawr hefyd. Fe wnes i ddechrau trwy eistedd yn yr ymarferion am ddau ddiwrnod, yn darlunio y symudiadau a’r ystumiau oedd y perfformwyr Eddie Ladd, Anna ap Robert ac Angharad Price Jones yn ei wneud, gyda’r coreograffydd Sarah Williams.
Erbyn hyn, dwi wedi dychwelyd i Gaernarfon er mwyn dechrau gyda’r peintiad ar ganfas enfawr yn yr ardal gyhoeddus o gwmpas Galeri. Mi fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld y llun yn y broses o gael ei chreu, a hefyd yn datgelu mwy am y cynhyrchiad. Rwy’n edrych ymlaen i gael y cyfle i beintio mewn lle cyhoeddus, lle gall pobol ddod i’w weld a gofyn cwestiynau, os y dymunir. Dewch draw!”
Ceir gwybodaeth am Stephen Kingston ar ei wefan yma