Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhagor o fanylion am lwyfaniad o waith buddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
Bydd Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos yn cael ei llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith. Bydd perfformiadau nos Lun 6 Awst hyd nos Wener 10 Awst am 6yh yn Theatr y Maes, un o is-bafiliynau’r Eisteddfod, a fydd wedi’i lleoli eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd.
Heiddwen Tomos yw awdur Milwr yn y Meddwl. Yn wreiddiol o Gwrtnewydd, mae Heiddwen yn byw ym Mhenygarreg, Llanybydder, ac yn Bennaeth Cyfadran y Celfyddydau Mynegiannol, Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Yn 2017 cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon (Gwasg Gomer), ac mae hi hefyd wedi cyhoeddi straeon gyda Gwasg y Bwthyn.
Jac Ifan Moore fydd yn cyfarwyddo’r ddrama. Yn 2015, bu Jac yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar {150}, cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, a bu’n dilyn hyfforddiant cyfarwyddo gyda Theatr y Sherman fel rhan o’u cynllun Grŵp Cyfarwyddwyr JMK/Sherman, wedi’i gefnogi gan The Carne Trust. Mae Jac hefyd yn gyd-gyfarwyddwr artistig cwmni theatr PowderHouse, sef cwmni preswyl presennol y Sherman. Yr actorion fydd Aled Bidder, Ceri Murphy, Elin Phillips a Phylip Harries.
Mae Milwr yn y Meddwl yn ymdrin â chyflwr PTSD, ac yn dilyn stori cymeriad o’r enw Ned sydd wedi dod yn ôl adref i orllewin Cymru o faes y gad. Mae ei brofiadau diweddar yn rhyfel Irac wedi gadael creithiau dyfnion; rhai’n greithiau gweledol, ac eraill – y rhai dyfnaf – yn anweledig. Dyma ddrama newydd, ddirdynnol sy’n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymro, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau dychrynllyd o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Mewn stori oesol am gariad a pherthyn, a fydd cwlwm câr yn drech na’r bwled a’r bom?
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno’r cynhyrchiad hwn fel elfen bellach o’u menter newydd i ddatblygu gwaith newydd ac i hybu talent, sef Theatr Gen Creu. Yn ychwanegol at y cynhyrchiad hwn, bydd rhaglen hefyd o weithgareddau yn ystod yr ŵyl sy’n rhoi llwyfan i waith newydd sydd mewn datblygiad gan y cwmni, sef Theatr Gen Creu yn y Steddfod.
Ym 1978, Y Tŵr gan Gwenlyn Parry oedd drama gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe lwyfannwyd y perfformiadau cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn y Theatr Newydd yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y flwyddyn honno. I nodi 40 mlynedd oddi ar yr achlysur pwysig hwn, mae Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry yn cefnogi’r cynhyrchiad hwn o ddrama fuddugol Medal Ddrama 2017. Mae’r gefnogaeth hon yn gychwyn ar bartneriaeth tair blynedd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ac Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn falch iawn fod ein partneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd o nerth i nerth wrth inni weithio gyda’n gilydd i ddatblygu presenoldeb y ddrama yn yr ŵyl. Mae’r bartneriaeth hon yn golygu bod drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn cael ei llwyfannu am y bumed flwyddyn yn olynol eleni. Braf iawn hefyd yw cydweithio gydag un o brif gwmnïau theatr y brifddinas, sef Theatr y Sherman, wrth inni lwyfannu ‘Milwr yn y Meddwl’.
A hithau’n 40 mlynedd union ers y perfformiad cyntaf o un o’r dramâu Cymraeg mwyaf eiconig, sef ‘Y Tŵr’ gan Gwenlyn Parry, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978, braf hefyd yw bod Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry yn cefnogi’r cynhyrchiad hwn. Mae’r gefnogaeth hael yma’n coffáu nid yn unig ben-blwydd nodedig drama enwocaf Gwenlyn Parry, ond hefyd ei gyfraniad ef i fyd y Ddrama Gymraeg, yn arbennig felly yng nghyd-destun yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydym yn falch eithriadol fod y bartneriaeth hon rhwng Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a’r Theatr Genedlaethol yn un fydd yn parhau am dair blynedd.”
Meddai Julia Barry, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman:
“Mae Theatr y Sherman yn falch o gael gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar y cyd-gynhyrchiad hwn sy’n dod â dau o brif gwmnïau theatr Cymru ynghyd. Yn anad dim rydym yn falch y bydd y cynhyrchiad hwn yn rhan o ŵyl a dathliad celfyddydol pwysicaf Cymru wrth iddi ddyfod i’n dinas yr haf hwn.”
Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau cliciwch yma.

Aled Bidder

Ceri Murphy

Elin Phillips

Phylip Harries