Mae wythnos gyntaf ymarferion Y Tŵr wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn.
Mae’r broses o gymryd opera newydd o’r dudalen i’r llwyfan am y tro cyntaf yn gallu bod yn un llawn pryder: a fydd hi’n gweithio ar y llwyfan, y tu hwnt i weledigaeth y cyfansoddwr, yr awdur a’r comisiynydd? A fydd y gerddoriaeth yn dod â’r testun yn fyw mewn ffordd ddeinamig, ystyrlon? A fydd y syniadau cynhyrchu a’r dylunio’n gweithio gyda darn nad oes neb eto wedi’i glywed? Ac yn y blaen . . .
Yr ateb pendant i bob un o’r cwestiynau yma yw Bydd – hyd yn hyn! A dweud y gwir, rydym wedi gweithio’n gyflym dros ben ar Y Tŵr – yn llawer cyflymach nag ar unrhyw opera i mi weithio arni cyn hyn. Mae hyn o ganlyniad i ddau ffactor – cymhlethdod a dwyster y ddrama, a’r diffyg amser sydd gennym (gan ystyried ein bod yn colli sawl diwrnod o ymarfer gyda Gwyliau Banc y Pasg ac ati).
Ar ddechrau’r wythnos, penderfynais weithio mewn dull anarferol yn ystod cyfnod ymarfer Y Tŵr – gan fynd ati i ganu ac yna llwyfannu tameidiau bach o’r ddrama, fesul un. Rwy’n teimlo mai dyma’r ffordd orau i sicrhau bod y cantorion yn cofio’r gwaith – drwy roi symudiad a chymhelliad penodol i bob rhan fechan ohoni. Hyd yn hyn mae’r dull yma’n gweithio, ond dim ond wrth i ni gyrraedd diwedd yr opera a dechrau ei hailweithio y byddwn ni’n gwybod os ydy e’n llwyddiant ai peidio!
Wrth i ni fentro ymhellach i mewn i’r gwaith, rydw i hefyd yn dechrau rhoi prawf ar y cysyniadau cynhyrchu a grëwyd gennyf i a’r dylunydd Samal Blak. Maen nhw’n argoeli’n dda, ac rwy’n mwynhau’r her a’r dychymyg sydd ei angen, gan gadw llygad hefyd ar sut y byddwn yn eu cyfathrebu i’r gynulleidfa. Rydw i wrth fy modd gyda’r tyndra sydd i’w deimlo rhwng realaeth dwys y sgwrs rhwng y cymeriadau a symboliaeth y tŵr a’r ddrama – sy’n digwydd yn y presennol parhaus ond sydd hefyd yn archwilio taith dau berson drwy gydol eu bywydau.
Rydym yn gweithio gydag elfen arall yn ogystal – y ffocws ar ynganiad y geiriau. Cafodd y ddrama wreiddiol ei hysgrifennu yn nhafodiaith tref enedigol Gwenlyn Parry, sef Deiniolen, sir Gaernarfon, ac mae’r opera’n ffyddlon i’r dafodiaith honno. Serch hynny, gan fod pob gair yn cael ei ganu, mae angen hefyd i bob gair swnio’n “gywir” a dyna yw’r her – i gydbwyso sain yr acen gyda sain y canu.