Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod ymarferion Nyrsys wedi cychwyn!
Mae cast a chriw Nyrsys wedi cyrraedd Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, a’r wythnos gyntaf o ymarferion eisoes ar ei chanol. Rydyn ni’n hynod o falch o groesawu’r 5 actor atom i Gaerfyrddin ar gyfer y cyfnod ymarfer ac yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn datblygu.
Drama newydd gair-am-air yw hon, yn rhoi llwyfan i brofiadau nyrsys sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a hynny yn ystod blwyddyn dathlu’r GIG yn 70 oed. Cawn bortread o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a’r direidi, y chwaergarwch, a’r teimlad o alwedigaeth sy’n eu cynnal. Cawn gipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru heddiw mewn drama feiddgar a gonest, gyda sgript a chaneuon gwreiddiol wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys go iawn. Dyma ddarlun o’r galon o fywyd a gwaith rhai o’r arwyr hynny sy’n gofalu amdanom ni a’n hanwyliaid mewn cyfundrefn iechyd sydd dan bwysau parhaus.
Gyda Sara Lloyd yn cyfarwyddo, mae’r ddrama hon yn seiliedig ar syniad gwreiddiol ganddi hi a Bethan Marlow. Mae’r ddrama hefyd yn cynnwys caneuon gan Rhys Taylor a Bethan Marlow. Dros gyfnod o bedair blynedd, aeth Bethan ati i sgwrsio â nyrsys yn eu cynefin ar hyd a lled Cymru, gan ddefnyddio eu geiriau, air am air, i lunio’r sgript. Dyma oedd ganddi i’w ddweud am ei phrofiad ac am y ddrama unigryw hon:
“Dwi ’di bod yn cyfweld â nyrsys cansar ers dros dair blynedd rŵan, ac mae o ’di bod yn ddifyr, yn anodd, yn hegar ac yn hwyl. Do, dwi ’di chwerthin lot fawr, achos ma’r nyrsys ’ma’n llawn hiwmor a straeon sydd, ar adegau, wedi ’ngadael i’n gegrwth! Mae wedi bod yn fraint cael rhoi eu profiadau nhw mewn drama, yn anrhydedd rhoi eu lleisiau nhw ar lwyfan, ac yn bleser llwyr gosod eu geiriau nhw ar gân.”
Mae’r cast o bump yn cynnwys Bethan Ellis Owen, Carys Gwilym, Mali Jones, Elain Lloyd a Mirain Haf Roberts. Gyda nifer o ganeuon teimladwy yn rhan ganolog o’r ddrama, bydd band byw hefyd yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad.
Manylion y daith ar gael yma
Cyflwynir Nyrsys mewn cydweithrediad â Pontio.