Mae Cynyrchiadau Leeway, mewn partneriaeth â Theatr Soar, â ni Theatr Genedlaethol Cymru heddiw yn falch iawn o lansio Academi Leeway, sef academi theatr gerdd i bobl ifanc 14 – 25 oed.
Yn galw pobl ifanc Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Penybont a Chastell Nedd Port Talbot – ry’n ni eisiau clywed gennych chi.
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc sydd eisiau datblygu eu sgiliau creadigol, sydd â diddordeb mewn creu neu berfformio theatr gerdd ac sy’n barod i wthio’r ffiniau. Mae croeso i gantorion, cerddorion, cyfansoddwyr, awduron, dylunwyr, beirdd, bît-bocswyr… artistiaid neu berfformwyr o unrhyw fath. Does dim angen profiad blaenorol – dim ond angerdd i fod yn rhan o rywbeth newydd sy’n perthyn i chi.
Academi Leeway
Nod Academi Leeway yw bod yn labordy i ddatblygu sioeau cerdd newydd yng Nghymru gan gynnig hyfforddiant ac ysbrydoli pobl ifanc drwy ddefnyddio deunydd newydd sbon o Gymru.
Bydd Academi Leeway yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddod â straeon ac hanesion lleol i’r llwyfan a chreu theatr gerdd newydd sydd â gwreiddiau dwfn yng Nghymru. Drwy weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o’r celfyddydau, bydd Academi Leeway yn ysgogi, yn ysbrydoli ac yn cynnig llwybrau clir at y dyfodol i’r bobl ifanc hynny fyddai’n dymuno cymryd rhan.
Prosiect Lansio
I lansio’r Academi, bydd Academi Leeway yn creu llyfr cân digidol sy’n llawn dop o ganeuon a darluniau o sioe gerdd newydd – a’r bwriad yw bod y cyfan wedi’i wreiddio yn hanes y Cymoedd ac wedi’i greu gan grŵp ifanc a chreadigol o’r ardal.
Mae Academi Leeway yn chwilio am hyd at 6 pherson ifanc sy’n 14 – 25 oed i fod yn rhan o’r prosiect lansio hwn. Mae’n rhaid i chi fedru’r Gymraeg – boed hynny’n rhugl neu beidio – ac yn dod o ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Penybont a Chastell Nedd Port Talbot.
Bydd y prosiect yn digwydd fis Ionawr a Chwefror 2021.
Bydd cyfle ar gael i bob ymgeisydd gael clyweliad a bydd y panel dewis yn cynnwys Angharad Lee, Kizzy Crawford, David Laugharne ac aelod o’n tîm ni yn Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae Angharad Lee yn gyfarwyddwraig sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith a wnaeth dorri tir newydd gyda’i chynhyrchiad hygyrch o The Last 5 Years. Fe wnaeth hefyd gyfarwyddo un o sioeau mwyaf uchelgeisiol Eisteddfod Genedlaethol Cymru y llynedd, Y Tylwyth sef y cynhyrchiad agoriadol a lwyfanwyd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod.
Mae David Laugharne yn gyfarwyddwr cerdd o fri. Mae wedi gweithio ar Avenue Q; Legally Blonde; a Dirty Rotten Scoundrels yn y West End a Miss Saigon; The King and I; ac Annie ar daith. Mae wedi chwarae yn y gerddorfa mewn nifer o sioeau mawr eraill gan gynnwys Les Miserables; Wicked; The King & I; Jersey Boys; Sunset Boulevard; Joseph And The Amazing Technicolor Dreamcoat; Lion King; a llawer mwy.
Mae Kizzy Crawford yn gantores adnabyddus byd eang. A hithau’n Gymraes o dras Bajaidd, yn ei gwaith mae hi’n asio cerddoriaeth werin-eneidiol â jazz – a hynny’n ddwyieithog. Mae ei gwaith wedi ei gylwed yn barod ar nifer fawr o sianeli radio, yn cynnwys BBC Radio 1, BBC Radio 2, BBC 6Music, BBC Radio 4, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, a Jazz FM.
Dywedodd Angharad Lee, Cyfarwyddwr Cynyrchiadau Leeway,
“Ar ôl trafod gyda Theatr Soar a Theatr Gen am rai misoedd bellach, mae hi’n fraint, fel rhywun a wnaeth ddysgu ei chrefft trwy hyfforddiant lawr gwlad, i allu sefydlu Academi Leeway yng nghanol cymuned sydd â hanes ac egni unigryw. Rydym wedi ymrwymo i ddarganfod straeon mae ein cymunedau eisiau eu profi.”
Dywedodd Lis McLean, Prif Swyddog Theatr Soar,
“Rydyn ni wrth ein bodd i fedru cynnig y cyfle hwn i bobl ifanc ein cymoedd. Bydd y prosiect hwn yn ysbrydoli uchelgais ar adeg angenrheidiol. Dwi’n edrych ymlaen at weld beth all y bartneriaeth newydd hon ei gynnig i’n cymunedau a beth fydd yn cael ei greu gan y bobl ifanc.”
Dywedodd Rhian A. Davies, ein Cynhyrchydd Gweithredol,
“Ar ôl cydweithio gyda Theatr Soar i gyd-gyflwyno sioe theatr Gymraeg yno gyda chwmni Criw Brwd ym mis Chwefror 2020, ry’ ni’n falch i ddatblygu’r bartneriaeth a chydweithio gyda Chynyrchiadau Leewayi gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc, yn ardaloedd Merthyr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Penybont, Castell Nedd a Phort Talbot, i gael profiadau diwylliannol cyffrous drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Ceir rhagor o wybodaeth am Academi Leeway ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru yma.
Am Gynyrchiadau Leeway
Cwmni theatr sy’n ymrwymedig i gynhyrchu theatr gerddorol newydd a theatr gerddorol sy’n bodoli ers oes yw Cynyrchiadau Leeway.
Rydym yn ymrwymedig i theatr gerddorol yn unig, gan ysbrydoli ac ennyn chwilfrydedd mewn Diwylliannau.
Defnyddiwn ymarfer sy’n cael ei arwain a’i ddatblyglu gan artistiaid er mwyn herio ffurfiau traddodiadol y theatr gerdd, ac fe ysbrydolwn bobl greadigol i gydweithio ar syniadau ffres a rydd llais i straeon wrth galon ein cymunedau.
Fe dorrodd ein cynhyrchiad bleangar ac arloesol ‘The Last 5 Years’ dir newydd o ran cynhwysiant yn y theatr gerdd.
Rydym yn gwmni amrywiaeth hyderus, sy’n rhoi mynediad i bawb wrth galon creadigol ein cynychiadau, tra’n anelu’n barhaus at ragoriaeth greadigol sy’n caniatáu i ysbryd ein cymunedau ganu.
Am Theatr Soar
Mae Theatr Soar yn theatr gymunedol sy’n cynnig llwyfan a gwagle ar gyfer Merthyr a chymunedau’r cymoedd. Mae’r mudiad yn cael ei redeg gan Fenter Iaith Merthyr Tydfil sy’n chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad yr iaith Gymraeg trwy weithgarwch cydweithredol.
Adeiladu amgylchfyd sy’n ysbrydoli creadigrwydd, adeiladu ar hyder a lledu gorwelion sydd wrth galon gwaith Theatr Soar.
Am Theatr Genedlaethol Cymru
Rhoi theatr Gymraeg wrth galon y genedl yw gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru. Rydym yn creu a chyflwyno cynyrchiadau theatr gyda’r nod o gyffroi, diddanu a thanio dychymyg ein cynulleidfaoedd. Rydym hefyd yn creu cyfleoedd sy’n fodd i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg ynghyd â chyfleoedd i bobl ledled Cymru brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd yn eu bywydau.