Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn teithio Y Cylch Sialc yn nhymor yr hydref eleni. Dyma drosiad newydd i’r Gymraeg o glasur Bertolt Brecht, Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle) gan yr awdur a’r bardd Mererid Hopwood gyda cherddoriaeth gan Gwenno yn cael ei pherfformio’n fyw yn ystod y cynhyrchiad.
Stori antur yw Y Cylch Sialc sy’n dilyn hanes merch ifanc wrth iddi ffoi o’i chartref oherwydd rhyfel a phenderfynu aberthu popeth er mwyn achub plentyn. A hithau’n un o glasuron yr ugeinfed ganrif, dyma ddrama sy’n byrlymu â hiwmor, cerddoriaeth a chymeriadau bywiog.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni lwyfannu un o ddramâu Brecht ac rwy’n falch iawn ein bod yn cydweithio â Mererid a Gwenno i greu addasiad newydd sbon o’r clasur hwn. Mae Y Cylch Sialc yn ddrama rymus a chanddi stori sydd mor berthnasol heddiw ag oedd hi pan ysgrifennwyd y ddrama’n wreiddiol.”
Mae Mererid Hopwood yn athro, awdur a bardd. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, ac aeth ei chyfrol o gerddi, Nes Draw, â gwobr Llyfr y Flwyddyn, categori barddoniaeth yn 2016; hefyd, enillodd ei nofel i blant, Miss Prydderch â’r Carped Hud, Wobr Tir Na n-Og 2018. Mae Mererid yn dychwelyd i weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn dilyn ei throsiadau blaenorol ar gyfer y cwmni, sef Yr Hwyaden Fach Hyll (2014 – mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr y Sherman) a Tŷ Bernarda Alba (2009).
Dywedodd Mererid: “Mae Y Cylch Sialc yn ddrama sy’n pryfocio’r gynulleidfa. Mae’n herio’n disgwyliadau ni ac yn herio’r drefn. Ochr yn ochr â’r hiwmor, yr anwyldeb, y tyndra a’r cydymdeimlad, mae Brecht yn gadael digon o le i’n procio ni i feddwl eto am sut mae’r hen fyd ’ma’n troi. Pwy sy ‘piau’ beth? A beth yw natur ein perthynas ni â’n gilydd?”

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Gwenno wedi serennu ar lwyfannau ledled y byd fel cantores a chyfansoddwraig. Mae hi eisoes wedi teithio gydag Elton John a Pnau, ac mae hi ar fin mynd ar daith gyda’r Manic Street Preachers drwy Brydain ac Iwerddon. Enillodd Gwenno wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015, ac ym mis Tachwedd 2015 hi oedd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2014/15. Mae hi hefyd wedi perfformio fel dawnswraig mewn cynyrchiadau fel Lord of the Dance a Riverdance (cynyrchiadau Michael Flatley). Yn ogystal â pherfformio ei cherddoriaeth ei hun yn fyw yn ystod Y Cylch Sialc, bydd Gwenno hefyd yn chwarae rhan Y Cyfarwydd yn y ddrama.
Dywedodd Gwenno: “Braint ac anrhydedd yw cael cyfle i gydweithio gyda Sarah Bickerton, Mererid Hopwood a’r Theatr Genedlaethol ar y ddrama hon gan Brecht. Edrychaf ymlaen at fynd i’r afael â’r weledigaeth ddigyfaddawd wreiddiol, ei dadansoddi’n gerddorol o’r newydd, a’i chyflwyno i gynulleidfaoedd ar draws Cymru.”

Sarah Bickerton, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru, fydd yn cyfarwyddo’r ddrama. Sarah oedd cyfarwyddwr dau o gynyrchiadau diweddar y cwmni, sef Nansi (2015/16) a Hollti (2017), a hi hefyd oedd cyfarwyddwr cyswllt
Y Bont (2013).
