Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Logo_Porffor_RGB

Theatr Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn  hybu sgiliau iaith gweithwyr llawrydd.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi cynllun peilot er mwyn cynorthwyo gweithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau i fanteisio ar ddarpariaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Fel rhan o’r cynllun peilot, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu bwrsariaethau i 20 o weithwyr llawrydd y celfyddydau perfformio fynychu cyrsiau ar-lein Iaith Gwaith gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn hybu hyder iaith Gymraeg yn y sector.

Yn dilyn galw mawr, mae’r llefydd bellach wedi’u llenwi ond mae croeso i chi gysylltu â thîm Theatr Gen i ychwanegu’ch enw i’r rhestr aros: nia.skyrme@theatr.com

Gan siarad heddiw, dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:

“Ry’n ni’n awyddus fel cwmni i gynnig cefnogaeth i weithwyr llawrydd y celfyddydau perfformio hybu hyder wrth weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan wnaethom ni wahodd gweithwyr llaw-rydd i wneud cais am le ar gwrs Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol roeddem ni wrth ein bodd i dderbyn ymateb mor frwd! Roeddem ni wedi gweithio ar sail deuddeg o lefydd, ond bu’r galw’n tipyn uwch na hynny. Rydym wedi penderfynu felly – gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru – gynnig llefydd i hyd at ugain o weithwyr llawrydd i hybu eu sgiliau iaith.”

Gan siarad heddiw, dywedodd Sian Tomos, Cyfarwyddwr (Datblygu’r Celfyddydau) Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’r ymateb i alwad Theatr Genedlaethol Cymru yn hynod galonogol ac yn dangos maint y galw ymhlith gweithwyr llawrydd am gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r Gymraeg yn faes gweithgarwch sydd yn ganolog i waith y Cyngor ac un o flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y blynyddoedd i ddod, fel yr amlinellwyd gennym yn ein dogfen drafod ddiweddar, Ail-osod y Llwyfan.

“Gobeithiwn y bydd cefnogi’r cynllun hwn gan y Theatr Genedlaethol yn fodd nid yn unig i ni feithrin medrau yn y Gymraeg o fewn y sector gelfyddydol, ond yn ffordd hefyd i ni gefnogi gweithwyr llawrydd sydd wedi cael amser mor echrydus o anodd dros y misoedd diwethaf”.

Pwrpas y cynllun peilot hwn yw cefnogi gweithwyr theatr llawrydd i hybu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith trwy gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cael ei ddarparu’n rithiol gan Ganolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn.

5 Ionawr 2021

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government