Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Cwestiynau cyflym ar gyfer awdur y ddrama Merched Caerdydd.

Mae Merched Caerdydd yn teithio ar y cyd gyda Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams ym mis Mawrth ac Ebrill 2019. Manylion llawn y daith yma.

Merched Caerdydd

Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?

O ble ddaeth y syniad am y ddrama hon?

Yn wreiddiol, comisiynwyd Merched Caerdydd fel rhan o arlwy Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Yn ystod y broses, daeth Theatr Genedlaethol Cymru yn bartner hefyd. O ganlyniad, fe fûm i’n ffodus o gael gweithio gyda’r cyfarwyddwyr Sarah Bickerton a Mared Swain. Perfformiwyd y monologau yn y cwt drama ac yng Nghaffi Sïo.
Am fod 2018 yn flwyddyn o gofio canrif ers i rai menywod gael yr hawl i bleidleisio, roeddwn i’n awyddus i gyflwyno monologau am fenywod oedd yn byw yng Nghaerdydd heddiw ac yn medru’r Gymraeg. Ar ben hynny, roeddwn i’n awyddus i roi llwyfan i fenywod nad ydyn ni’n eu gweld nhw ar lwyfan yn aml. Roedd cynrychioli heriau menywod (a’r dewisiadau anodd sydd ganddynt i’w gwneud o safbwynt eu rôl) yn greiddiol i’r hyn oedd yn fy ngyrru ymlaen wrth ysgrifennu.

CatrinDafydd

Allwch chi roi disgrifiad byr o’r 3 chymeriad.

Dynes ifanc llawn bywyd o ardal ddifreintiedig Caerau yw Cariad, â’i bryd ar serennu rywsut. Dynes danllyd yw Liberty sydd â pherthynas gymhleth nid yn unig gyda’i mam ond gyda’i chorff ei hun hefyd. Magwyd Awen mewn cartref moethus yng Nghyncoed ond bydd yn rhaid iddi ddod i delerau gyda phenderfyniadau ei gorffennol cyn medru symud ymlaen.

Ydy’r sgript wedi newid llawer ers y darlleniad cyntaf yn yr Eisteddfod? Os ydyw sut a pham?

Tair monolog oedd Merched Caerdydd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’r monologau wedi eu plethu ynghyd i greu drama. Roedd yn waith mewn datblygiad ac o ganlyniad fe esblygodd ar hyd y daith. Gyda phob un darlleniad a phob un ymarfer cafwyd newidiadau a thoriadau er mwyn ceisio cryfhau’r darn.
Yn ogystal, wrth glywed y gwaith yn cael ei berfformio o flaen cynulleidfa yn yr Eisteddfod fe ges i gyfle i sylwi ar bethau eraill oedd angen eu torri a’u haddasu. Mewn perfformiad byw, mae’r gynulleidfa yn rhoi cannoedd o gliwiau i chi heb ddweud gair. Rydych chi’n gallu teimlo’r angen i addasu a newid y darn ac yn ysu am gael gwneud ar ôl perfformiad!

Fyddwch chi’n cydweithio gyda’r cyfarwyddwr o gwbl?

I mi, mae cydweithio gyda Mared Swain fel cyfarwyddwr wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad Merched Caerdydd. Mewn cymaint o ffyrdd, mae ysgrifennu’n broses dorfol ac rydw i a Mared wedi gweithio’n agos ar hyd y daith. Mae ei chyngor dramatwrgaidd wedi fy herio ar bob adeg sy’n beth mor arbennig.

Ydych chi’n credu y bydd y cymeriadau yn newid wrth i’r actorion gymryd meddiant ohonynt?

Mae actorion bob tro’n dod â bywyd newydd i gymeriadau. Yn yr ystafell ymarfer, mae’r gwaith yn esblygu wrth i’r actorion gyfrannu eu meddyliau. Yn fy marn i, mae gan bawb sy’n ymwneud yn ddwys gyda ‘drama mewn datblygiad’ yr hawl i awgrymu beth allasai gryfhau’r darn. Mater o bwyso a mesur yw hi wedyn.

Pa un sydd orau gennych? Ysgrifennu i’r teledu neu i’r llwyfan?

Mae ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r llwyfan yn brofiadau gwahanol ar un wedd ac eto mae ‘na sawl peth yn gyffredin rhyngddynt. Ym mhob achos, rydych chi’n cyd-weithio’n agos gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a golygyddion sydd oll am roi’r profiad gorau i’r gynulleidfa. Dwi ddim yn teimlo’r angen i ddewis rhwng y naill ddisgyblaeth a’r llall mewn gwirionedd achos mae cael y fraint o ysgrifennu mewn sawl cyfrwng yn cyfoethogi dy brofiad fel sgwennwr.

Mae Merched Caerdydd yn teithio ar y cyd gyda drama Roger Williams Nos Sadwrn o Hyd rhwng Mawrth ac Ebrill 2019. Mwy o wybodaeth yma.

Categorïau: Blog Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

Dilynwch ni!

Twitter
Instagram
Facebook
Youtube
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government