Erin Maddocks, y Goruchwylydd Gwisgoedd ar Mrs Reynolds a’r Cena Bach, sy’n cyflwyno un o wisgoedd cymeriad yn y sioe.
“Dyma rai ychwanegion at wisg Mel, rhan sy’n cael ei chwarae gan yr actores Leah Gaffey. Mae’r darnau yma yn gymorth i gyfleu ychydig o bersonoliaeth Mel drwy ei gwisg. Mae hi’n gymeriad ifanc, lliwgar a hoffus ond sydd wedi cael amser anodd yn y blynyddoedd diwthaf ond yn trio rhoi hynny i gyd tu ôl iddi rwan.
Mae cwblhau gwisg cymeriad yn rhan pwysig iawn, ac roedden ni eisiau dipin bach o liw (pink!) a thipyn o emwaith aur syml sydd yn golygu rhywbeth eitha sentimental i’r cymeriad, fel y locket fach, a’r gadwyn efo ‘M’ arni.”