Daeth criw o awduron ifanc i’r Llwyfan, yng Nghaerfyrddin Dydd Sadwrn y 14eg o Hydref i wneud gweithdy gyda minnau, Arwel Gruffydd a Janet Aethwy. Mae’r awduron wedi cael eu dewis i ysgrifennu dramâu newydd i blant am y Chwyldro Diwydiannol ar gyfer Gŵyl Hanes Cymru. Daeth yr awduron atom i drafod eu syniadau dechreuol, ar ôl iddynt dreulio amser yn ymchwilio pynciau neu thema benodol ynghlwm â’r Chwyldro.
Roedd y diwrnod yn gyfle i drafod sut mae troi’r hanes a’u syniadau mewn i ddramâu gafaelgar ar gyfer 1 actor. Cafwyd sesiynnau mewn grŵpiau bach i ddarllen drwy brasluniau ac esiamplau o olygfeydd, ac yna sesiynnau un wrth un i drafod bob drama mewn manylder. Braf iawn oedd archwilio amrywiaeth eang o hanes, straeon a chymeriadau lliwgar gyda chriw o awduron talentog. Rwy’n falch iawn i fod wedi chwarae rhan mewn prosiect sy’n cynnig cyfle gwych i awduron ddatblygu eu crefft a gwireddu eu syniadau, ochr yn ochr ag awduron eraill ar gychwyn eu gyrfaoedd. Y gobaith yw bod ein trafodaethau ac adborth yn mynd i fod o help llaw wrth iddynt fynd ati rŵan i lunio drafft cyntaf o’u dramâu. Edrychaf ymlaen yn fawr i weld y dramâu yn datblygu a’u perfformio ledled y wlad yn Ŵyl Hanes Cymru 2018.
Sarah Bickerton, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru