Yn ddiweddar, bu Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i ddarparu gweithdai drama cyffrous i ddisgyblion ysgolion cynradd Môn. Roedd y gweithdai, oedd yng ngofal tri artist adnabyddus, yn fodd i’r sefydliadau ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yr ynys ac i hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017.
Rhwng 14 a 26 Mehefin, bu’r artistiaid Owen Arwyn a Rhian Cadwaladr (ill dau yn Asiantiaid Creadigol gyda Chyngor y Celfyddydau) ynghyd â Sian Miriam, yn arwain gweithdai hwylus i fagu hyder yn y plant a’u helpu i ddatblygu sgiliau newydd, megis creu cymeriadau a golygfeydd theatraidd.
Bu’r artistiaid yn ymweld â 15 ysgol, ac yn cyfarfod oddeutu 350 o blant, gan gynnig rhaglen ddifyr o weithgareddau wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer yr ardal, a’r rheiny’n seiliedig ar themâu yn gysylltiedig â’r Eisteddfod.
Roedd yr ysgolion canlynol yn cymryd rhan: Esceifiog, Llannerch y Medd, Kingsland, Rhoscolyn, Pencarnisiog, Y Parc, Llangoed, Ysgol y Borth, Brynsiencyn, Pentraeth, Goronwy Owen, Talwrn, Corn Hir, Cylch y Garn a Moelfre.
Wrth siarad ar ran Ysgol Goronwy Owen, Benllech, dwedodd yr athrawes, Awen Gibbard:
“Roedd hon yn ffordd unigryw o ddatblygu dealltwriaeth y plant o’r profiadau a geir yn yr Eisteddfod. Rhoddwyd cyfle i’r plant flasu hynt a helynt yr Eisteddfod drwy amrywiaeth o weithgareddau a gêmau hwyliog a chofiadwy. Cyn profi’r gweithdy, ychydig iawn o ddiddordeb oedd gan y plant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond, yn dilyn y sesiwn, braf oedd gweld nifer ohonynt yn trefnu diwrnod i gyfarfod ar y maes eleni.”
Dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn ymhyfrydu yn ein partneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sy’n cynnwys cydweithio mewn sawl modd, yn cynnwys: noddi Theatr y Maes drwy ddarparu’r gefnogaeth dechnegol; arwain Caffi’r Theatrau drwy gydweithio â phartneriaid fel Arad Goch, Theatr Bara Caws, Galeri Caernarfon, Pontio, Frân Wen, Opera Cenedlaethol Cymu, Sherman Cymru, Dawns i Bawb, Theatr Spectacle, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a Theatr Clwyd; a chynnal gweithdai er mwyn cefnogi gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal lle cynhelir hi.”