Gwahoddiad i drigolion Môn: dewch i weld cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru yn Galeri Caernarfon!
- Cynnig arbennig i bobl Môn – trefnwyd bws, yn rhad ac am ddim, i gludo trigolion o Ynys Môn i Galeri Caernarfon, ar gyfer noson agoriadol taith genedlaethol Hollti.
- Drama newydd sy’n seiliedig ar gynlluniau ar gyfer atomfa newydd ar yr ynys, ac ymateb y gymuned leol.
Hollti gan Manon Wyn Williams
“Dim y ni sy efo gafal ar y tir, ond y tir sy efo gafal arnan ni.”
Mae datblygiadau ar y gweill i adeiladu atomfa newydd ar Ynys Môn. Ond pa effaith gaiff yr Wylfa Newydd ar ei chymdogion agosaf wrth i beiriant mawr cyfalafiaeth geisio llyncu fferm sydd wedi bod yng ngofal yr un teulu ers cenedlaethau?
Hoffai Theatr Genedlaethol Cymru a Galeri Caernarfon wahodd trigolion Môn i weld Hollti, yn Galeri Caernarfon nos Iau, 5 Hydref.
Mae Hollti yn ddrama gair-am-air newydd a beiddgar am hawl ein cymunedau i lunio’u dyfodol eu hunain. Gyda sgript wedi’i chreu o gyfweliadau gyda thrigolion lleol, daw cast o wynebau cyfarwydd â’r dadleuon yn fyw.
Yn arbennig ar gyfer noson agoriadol taith genedlaethol Hollti, bydd bws ar gael yn rhad ac am ddim, yn cychwyn o faes parcio Ysgol Uwchradd Bodedern am 18:15, stopio yn Swyddfa Bost Llangefni am 18:30 ac ym maes parcio ‘Parcio a Theithio’ (Park & Ride) Llanfair Pwll am 18:40 cyn mynd ymlaen i Galeri Caernarfon, ac yn ôl wedi’r sioe. Bydd y bws yn gadael yn brydlon, felly caniatewch ddigon o amser i gyrraedd mewn da bryd. Mae modd archebu eich tocynnau i’r sioe [£12–£10] a sedd ar y bws drwy ffonio swyddfa docynnau Galeri ar 01286 685 222. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar y bws, a dosberthir hwy ar drefniant cyntaf i’r felin.
Bydd cyfle i gael diod a chlywed sgwrs cyn-sioe yn Galeri am 19:00 yng nghwmni’r criw creadigol dan arweiniad Catrin Jones Hughes.
Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton (cyfarwyddwr Nansi, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, 2015).
Cast: Siw Hughes, Gwyn Vaughan Jones, Dafydd Emyr, Sion Pritchard, Iwan Charles, Steffan Harri a Lowri Gwynne.
Mynediad ar gyfer y di-Gymraeg drwy gyfrwng SIBRWD – lawrlwythwch yr ap o’r AppStore neu GooglePlay.
Y Daith:
Galeri, Caernarfon 5 + 6 Hydref
Theatr Mwldan, Aberteifi 9 + 10 Hydref
Theatr y Lyric, Caerfyrddin 12 + 13 Hydref
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 16 + 17 Hydref
ATRiuM, Prifysgol De Cymru, Caerdydd 19 + 20 Hydref
Cliciwch yma am wybodaeth llawn am y daith.
Am ragor o wybodaeth am y sioe a threfniadau’r daith bws, cysylltwch â Llinos Jones – llinos.jones@theatr.com os gwelwch yn dda.