Ymunwch â ni i brofi app Sibrwd, elfen hanfodol o gynhyrchiad Merch yr Eog/Merc’h an Eog
gan Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Bydd y ddrama Merch yr Eog yn cael ei gyflwyno mewn tair iaith, ac er mwyn deall yr ieithoedd yn y sioe bydd angen i’r holl gynulleidfa ddefnyddio app Sibrwd, fydd yn cynnig cyfieithiad unai yn Gymraeg, Saesneg, Llydaweg a Ffrangeg yn ystod y sioe. Dyma’r tro cyntaf i ni gyflwyno Sibrwd mewn pedair iaith i gynulleidfa eang.
Rydym yn chwilio am bobl i brofi’r dechnoleg gyda ni ar y 14eg o Fedi am 1 o’r gloch yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bydd y prawf yn gorffen tua 1.45.
Os oes diddordeb gyda chi ymuno â ni a bod o gymorth i ni wrth ddatblygu’r dechnoleg yma, bydd yn rhaid cofrestru trwy gysylltu â thgc@theatr.com