Ro’n i wrth fy modd pan gysylltodd Theatr Genedlaethol Cymru â mi i ofyn a hoffwn fod yng ngofal y goleuo ar gyfer Hollti, eu cynhyrchiad diweddaraf. Y tro diwethaf i mi oleuo un o sioeau’r cwmni oedd gyda Chwalfa y llynedd yn Pontio. Hon hefyd fydd yr ail sioe gair-am-air i mi ei goleuo i’r cwmni – Sgint oedd y gyntaf, ychydig flynyddoedd yn ôl.
Mae Theatr Gen bob amser yn gwmni grêt i weithio iddo, felly ar ddiwrnod cyntaf yr ymarferion, bythefnos yn ôl ro’n i’n gyffrous iawn wrth weld cymaint o bobl hyfryd unwaith eto, a chwrdd â llawer o rai newydd hefyd.
Mae’r cam cyntaf yn y gwaith o gynllunio’r goleuo yn ymwneud yn bennaf â meddwl am syniadau sy’n cyd-fynd â syniadau’r cyfarwyddwr a’r cynllunydd, yn ogystal â’r cynllunydd sain a’r cynllunydd fideo. O ganlyniad, ry’n ni wedi bod yn trafod ers sbel nawr, ac rwy’n brysur yn troi syniadau yn fy mhen tra ar yr un pryd yn cymryd i ystyriaeth agweddau ymarferol y ganolfan lle mae’r sioe yn agor.
Rydw i hefyd wedi symud tŷ yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a heddiw ro’n i’n meddwl am syniadau wrth grafu papur wal – sy’n ffordd llawer gwell nag arfer o wneud y gwaith! A nodyn i’r cyn-berchnogion – pam, o pam, wnaethoch chi ddewis papur wal yn llawn o gliter? Mae’r stwff yn mynd i bobman!
Elanor Higgins