Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o’r cyfle eto eleni i gydweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i drefnu rhaglen o weithgareddau theatr yn y Pentref Drama. Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, rydym yn galw am geisiadau i gyflwyno digwyddiadau amrywiol fel rhan o raglen y Pentref Drama, a hynny’n bennaf yn Theatr y Maes e.e. darlleniadau neu gyflwyniadau o waith-ar-waith o gynyrchiadau neu gomisiynau newydd, cyffrous ac uchelgeisiol, a fydd yn ysgogi ac yn annog trafodaeth ac yn cynnig profiad diddorol ac unigryw i fynychwyr yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn ogystal, gellir cynnal cyflwyniadau graddfa fechan neu amrwd, trafodaethau a sgyrsiau am waith newydd, neu ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan.
Nifer cyfyngedig o sesiynau sydd ar gael, ac mae gofyn i unrhyw sesiwn a gynhelir fod rhwng hanner awr ac awr o hyd (gan gynnwys amser gosod a chlirio’r llwyfan).
Am ragor o wybodaeth, ac i drafod eich syniadau, cysylltwch â Fflur Thomas ar fflur.thomas@theatr.com. Rhaid i ni dderbyn eich ceisiadau erbyn 12:00 ddydd Gwener 14 Rhagfyr 2018.