Fel rhan o Theatr Gen Creu – menter Theatr Genedlaethol Cymru sy’n cefnogi datblygiad artistiaid theatr ac yn hybu talent – mae’r cwmni’n galw am geisiadau ar gyfer Awenau: Cynllun Hyfforddi a Mentora Cyfarwyddwyr Theatr. Mae hwn yn gyfle arbennig i gyfarwyddwyr theatr sydd ar ddechrau eu gyrfa, neu i artistiaid theatr sy’n awyddus i newid cyfeiriad a rhoi cynnig ar gyfarwyddo, i’w galluogi i ddatblygu eu crefft. Mae Awenau yn gynllun hyfforddi a mentora cyfoethog sy’n cynnwys dosbarthiadau meistr gyda chyfarwyddwyr theatr profiadol, a chyfleoedd ymarferol i weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol ar un o gynyrchiadau’r cwmni ac i gyfarwyddo darlleniad o waith mewn datblygiad.
Nod y cynllun yw meithrin doniau theatr Gymraeg y dyfodol, i sicrhau bod unigolion yn teimlo’n barod i gydio’n hyderus yn yr awenau, ac arwain prosiectau a chynyrchiadau theatr cyffrous i’r dyfodol.
Mae Awenau yn agored i unigolion o bob oed, ac o bob cwr o Gymru a thu hwnt, sydd am gyfarwyddo theatr yn y Gymraeg. Mae’r cwmni’n chwilio am bobl sy’n awyddus i archwilio, arbrofi a datblygu eu crefft, neu i ddatblygu sgiliau o’r newydd, os ydynt yn troi at gyfarwyddo am y tro cyntaf ond eisoes yn gweithio yn y sector theatr. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn annog yn arbennig geisiadau o blith grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn y celfyddydau – pobl anabl, menywod, pobl dduon ac Asiaidd, rhai o leiafrifoedd ethnig eraill, rhai o gefndiroedd economaidd ddifreintiedig, ac unigolion o’r gymuned LGBTQ+.
Fel rhan o ymrwymiad Theatr Genedlaethol Cymru i sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn agored i bawb sydd am ymgeisio, mae pob elfen ohono’n cael ei gynnig heb unrhyw gost i’r ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd y cyfleoedd i weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol a chyfarwyddwr ar ddarlleniadau cyhoeddus yn swyddi y cynigir tâl amdanynt, yn unol ag amodau arferol y theatr broffesiynol.
Dywed Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, am y cynllun:
“Y ffordd orau i ddysgu sut i gyfarwyddo yw trwy gyfarwyddo! Ond mae’r cyfleoedd sydd ar gael i gyw-gyfarwyddwyr mor brin, yn arbennig felly lle cynigir tâl am y gwaith. Mae hyn yn golygu, yn aml, mai dim ond y rhai hynny sydd â’r modd i gynnal eu hunain tra’n magu profiad yn ddi-dâl yw’r rhai sy’n gallu manteisio ar y cyfleoedd prin hynny. Mae’r cynllun hwn yn fodd i ehangu mynediad i gyfarwyddo theatr, gan fod y cyfan sy’n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim; mae costau mynychu’r amrywiol sesiynau hyfforddiant yn cael eu talu, a chyfleoedd cyflogaeth ar gael er mwyn dysgu ac ehangu crefft. Mae mentro i’r maes hwn hefyd yn gofyn am gryn ddewrder a hunanhyder. Gobeithiwn y bydd y cyfleoedd i arsylwi, ac i dderbyn hyfforddiant, ynghyd â’r cyfle i roi cynnig ar gyfarwyddo dan fentoriaeth cyfarwyddwr profiadol, yn fodd i’r ymgeiswyr llwyddiannus dorri’r garw, ac yn gyfle iddynt fentro cydio’n hyderus yn yr awenau creadigol mewn awyrgylch diogel a chefnogol.”
Am fanylion llawn am y cynllun, a gwybodaeth ar sut i wneud cais, gweler y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr cliciwch yma.
I gwblhau ffurflen gais cliciwch yma / I gwblhau ffurflen monitro cliciwch yma
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y cynllun hwn.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17:00, Dydd Llun 21 Ionawr 2019.
Dyddiad Cyfweliadau: Cynhelir cyfweliadau yn Y Llwyfan, Caerfyrddin, neu dros Skype, ar 19 a/neu 20 Chwefror 2019.