Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
XGwefan_1200x800

X

“Cyn gynted â ma’r enw ‘Cymru’ yn ca’l ei delet’o, that’s it am byth.” 

Dyma ddrama newydd gyffrous gan Rhydian Gwyn Lewis – enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Daw Rhydian yn wreiddiol o Gaernarfon, ond mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Mae’n gweithio fel Golygydd Sgript i’r gyfres Pobol y Cwm, gan fwynhau ysgrifennu a chyfansoddi yn ei amser hamdden.

Dydw i erioed wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Dydw i ddim wedi bod yn un sy’n dilyn trafodaethau Tŷ’r Cyffredin na’r Senedd, nac wedi ceisio rhagweld sut ddyfodol sydd i wleidyddiaeth Cymru. Ond bellach mae hi’n gwbl amhosib osgoi’r peth. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Facebook a Twitter wedi bod yn fan canolog ar gyfer dadleuon gwleidyddol tanbaid, ac mae sawl sesiwn ddiflas o sgrolio trwy fy ffôn wedi arwain at ddigalonni, gwylltio, a chuddio’r ffôn mewn drôr er mwyn esgus bod yr holl beth ddim yn wir!

Ac wrth weld y dadleuon ymysg pobl ifanc yn dod yn rhywbeth mwy cyffredin (hyd yn oed os oedd hynny er mwyn penderfynu ai ‘Popty Ping’ ynteu ‘Meicrodon’ yw’r term cywir), dechreuais feddwl beth fydd penllanw hyn i gyd. Pa mor bell mae’r dadlau’n mynd i fynd, a faint mae hi’n mynd i gymryd i rywun gracio yn y pen draw a gwneud rhywbeth? Pryd mae’r keyboard warriors am droi yn rhyfelwyr go iawn?

Penderfynais osod y ddrama yn y dyfodol cymharol agos a gweld sut byddai criw ifanc o Gymry Cymraeg yn ymateb pe bai Cymru, fel gwlad, yn y fantol ac ar fin cael ei huno gyda Lloegr. Wedi eu gwthio i’r eithaf, mae’r criw yn troi at derfysg er mwyn ceisio dal gafael ar ryw fath o annibyniaeth ond, fel sydd i’w weld yn aml ar dudalennau Twitter, mae dadlau ac anghytuno o fewn y criw yn peryglu llwyddiant eu cynllun.

Wedi llwyddiant y ddrama yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, cefais y cyfle euraidd o weithio gyda Sarah Bickerton er mwyn ceisio cryfhau’r sgript a chyfoethogi’r byd rhannol ddychmygol hwn yn y dyfodol. Bu ei harweiniad hi, a’i ffordd o wneud i mi gwestiynu popeth am Gymry’r dyfodol, yn allweddol er mwyn sicrhau bod y byd gwleidyddol sy’n gefnlen i’r ddrama yn gredadwy ac yn bosibl, a’n bod yn creu deinameg ddramatig rhwng y cymeriadau sy’n gyfrifol am beryglu llwyddiant eu cynllun. Bu sgwrsio gyda’r Athro Richard Wyn Jones yn werthfawr hefyd er mwyn gallu rhagweld trywydd gwleidyddol ein gwlad, a bu cyfraniad Ffion Dafis a’r actorion yn gymorth mawr wrth fireinio a chyfoethogi’r cymeriadau.

Drama am Gymry ydi ‘X’; drama am gymeriadau a phobl ifanc Cymraeg sy’n cael eu gorfodi i weithredu er mwyn achub eu gwlad, a drama sydd wedi fy ngorfodi i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth am nad oes modd dianc oddi wrthi erbyn hyn. Fedrwn i ddim cuddio’r ffôn yn y drôr ’na am byth!

Rhydian_Gwyn_Lewis

Rhydian Gwyn Lewis, awdur y ddrama.

Ceir rhagor o fanylion am y cynhyrchiad, ynghyd â dyddiadau ac amseroedd y perfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yma.

21 Gorffennaf 2019

Categorïau: Blog Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

Dilynwch ni!

Twitter
Instagram
Facebook
Youtube
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government