Mae Melangell Dolma yn actores, cynhyrchydd theatr a dramodydd o sir Feirionnydd, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Bachu yw drama gyntaf Melangell ac fe gafodd ei datblygu’n wreiddiol fel rhan o gynllun awduron preswyl Theatr Clwyd.
Dwi wedi bod yn gweithio ar ‘Bachu’ ers ychydig dros flwyddyn erbyn hyn. Dechreuodd fel drama fer o’r enw ‘Mae’r Amser Wedi Dod’. Ysgrifennais y fersiwn pymtheg munud o hyd yma tra o’n i’n rhan o Gynllun Awdur Preswyl Theatr Clwyd ym mis Mehefin 2018. Cafwyd darlleniadau o’r darn yn yr Wyddgrug, ac yna yn Theatr y Maes yn Eisteddfod Caerdydd.
Gan fod y ddrama wedi’i gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ro’n i’n teimlo’n reddfol mai’r brifwyl oedd ei chartref naturiol. Fy ngobaith oedd creu llwyfaniad llawn o’r ddrama yn Eisteddfod Llanrwst. Yn dilyn y darlleniadau y llynedd, dechreuais drafod fy uchelgais gyda’r Eisteddfod, Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru. Yn ffodus, roedden nhw i gyd yn gefnogol tu hwnt, ac rydw i’n ddiolchgar iawn iddynt am eu holl gyngor ac arweiniad wrth i mi roi fy nghynhyrchiad cyntaf at ei gilydd.
Cwta un ar ddeg mis oedd gennym i baratoi. Mae’n swnio fel dipyn o amser, yn tydi? Ond doedd dim eiliad i’w wastraffu. Ceisiais am grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a diolch i’r drefn, ro’n i’n llwyddiannus. Gwych! Mis Mawrth. Cyllideb wedi’i chadarnhau. Ystafell ymarfer wedi’i chynnig i ni’n rhad ac am ddim trwy garedigrwydd Canolfan y Mileniwm. Gofod perfformio ar gael yng Nghaffi Maes B (y ddrama gyntaf i’w llwyfannu yno!). Roedd popeth yn ei le. Heblaw fod angen ail-ddrafftio’r sgript . . .
Ro’n i eisiau ei hymestyn i tua tri-chwarter awr o hyd. Dim problem, fysa hynna ddim yn rhy anodd. Ond wrth fynd yn ôl at y drafft cyntaf a’i dynnu’n ddarnau, a thrio rhoi’r cwbl yn ôl yn ei le efo darnau newydd ychwanegol, roedd fel trio gorffen jig-so heb y llun ar y bocs i roi arweiniad. Doedd pethau ddim yn disgyn i’w lle fel roeddan nhw i fod i neud. Panics! Do’n i ddim yn barod am hyn!

Melangell Dolma, awdur y ddrama.
Ceir rhagor o fanylion am y cynhyrchiad, ynghyd â dyddiadau ac amseroedd y perfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yma.
Stori serch ydi ‘Bachu’. Hanes Manon a Llŷr, dau gyn-gariad sy’n ffeindio’i hunain ar drothwy un o benderfyniadau mwyaf eu bywyd. Stori am gariad, cyfeillgarwch, a dathliad o holl draddodiadau rhyfedd y Steddfod. Ond roedd yna rywbeth mwy na hynna’n mynd ymlaen o dan yr wyneb. Be oedd o, tybed? Ac yna sylweddolais. Cymryd risg. Dyna ydi calon y ddrama hon – faint o ddewrder mae’n ei gymryd i’w mentro hi, heb wybod os wyt ti am lwyddo ai peidio.
Dwi ’di dysgu mwy na fyswn i erioed wedi gallu rhagweld yn ystod y broses yma. A do, ar brydiau, mae’r cwbwl wedi bod yn ormod a dwi ’di dymuno rhoi’r gorau iddi. Ac eto, fel Gwen, mam Manon, sy’n mentro ar y gystadleuaeth Dawnsio Gwerin ar ôl dim ond ychydig oriau o ymarfer, ro’n i’n gwybod y byddwn i wastad yn difaru mwy petawn i ddim yn mynd amdani. Weithiau, mae’n rhaid bachu ar y cyfle pan fedri di.
1 Awst 2019