Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Gweithdy4

Ar drothwy diwedd prosiect cyfranogi “ Fy Mlwyddyn” ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Cymunedau am Waith + a Theatrau Sir Gâr dyma edrych yn ôl ar brosiect sydd wedi fy ysbrydoli,  gwneud i mi wenu, crïo  a gweld y celfyddydau yn cael effaith mor bositif ar iechyd meddwl a lles pobol leol.

Mae’r celfyddydau i bawb, a dyna pam ei fod yn hollbwysig bod mudiadau celfyddydol yn agor eu drysau i bawb gael cyfle, boed hynny yn gyfle i actio, dawnsio, neu greu gwaith celf.

Y cyfle i greu, bod yn hapus, yn hyderus.

Cyfle i ddysgu.

Cyfle i grïo a gwenu,

a chyfle i siarad mewn lle sâff drwy ddefnyddio’r celfyddydau fel teclyn.

A dyma’n union mae’r merched ar brosiect Fy Mlwyddyn wedi ei wneud dros yr wythnosau diwethaf.

Gweithdy1

Gan gynnig cyfres o weithdai creadigol a lle sâff i siarad am iechyd meddwl, bachodd y merched ar y cyfle yma i greu, cael yr amser i fod yn greadigol mewn awyrgylch diogel. Dros yr wythnosau diwethaf dwi wedi gweld eu hyder yn tyfu, eu hunanbarch yn datblygu a’u gwedd yn newid.

Hyn oll wrth ymwneud â’r celfyddydau dros y misoedd diwethaf. Cafwyd y cyfle i actio, ysgrifennu’n greadigol, creu gwaith celf a gwnïo, ym mar Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Hoffwn ddiolch o galon i’r merched am fod mor agored, am rhoi eu ffydd yn fy ngwaith fel ymarferydd creadigol, ac am fod mor agored wrth drïo pethau newydd. Mae wedi bod yn brofiad arbennig iawn.

Dyma brofi unwaith eto bod y celfyddydau yn llesol iawn i’r meddwl a’r corff, a dylid pawb cael y cyfle i arbrofi, siarad a chreu.

Bydd arddangosfa o’r holl waith yn Theatr y Lyric Caerfyrddin ddydd Mawrth 10 Rhagfyr 2019 lle bydd cyfle i weld y gwaith creadigol yn ei gyfanrwydd.

Pwrpas yr arddangosfa ydi dathlu gwerth y celfyddydau wrth drin a thrafod iechyd meddwl a dangos taith y merched yn feddyliol dros y misoedd a’r flwyddyn ddiwethaf, a hynny drwy ddefnyddio y tymhorau fel llinyn themâu drwy’r arddangosfa.

Wrth droi am y Nadolig, beth am i ni gyd eistedd lawr a chael prynhawn o greu? Prynhawn o actio efo’r teulu cyfan, ysgrifennu cerddi neu beintio llun?

Llinos Jones, Swyddog Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2019

Categorïau: Blog Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Looking for a new job? Our friends @ClwydTweets are looking for a Programmer. A great opportunity to join this wond… https://t.co/5HHhdMk9Ts12:27 22/01/2021
  • Chwilio am swydd newydd? Mae'n ffrindiau @ClwydTweets yn chwilio am Raglennydd. Cyfle gwych i ymuno â'r cwmni hyfry… https://t.co/TQIF5GsXji12:26 22/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government