Yn dilyn gweithdy sgriptio gair am air a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Bodedern gyda Manon Williams a Llinos Jones, ro’n i’n awyddus iawn i gael gwybod mwy am y ddrama ‘Hollti’ a gwaith y Theatr Genedlaethol yn gyffredinol. Soniodd Llinos eu bod yn awyddus i gael pobl ifanc i wirfoddoli gyda nhw yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn, felly anfonais e-bost ati i ddweud y byddwn yn fodlon helpu gydag unrhyw beth.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ro’n i’n mynd draw i’r Pentref Drama pryd bynnag roedd yna gyfle rhwng cystadlu ayyb. Bob bore, ro’n i’n mynd o gwmpas y maes gyda Llinos yn treialu’r gweithdy ‘Theatr mewn Troli’. Cyn cychwyn, ro’n i braidd yn amheus wrth feddwl tybed sut y byddai hyn yn gweithio, ond er syndod i’r rhan fwya roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd cael pobl i wisgo i fyny a chael tynnu’u lluniau yn dod â nhw allan o’u ‘comfort zone’, ac mae hynny’n un o’r pethau pwysicaf ym myd y ddrama. Sylweddolais fod angen digon o hyder ar gyfer y math yma o swydd er mwyn perswadio pobl eraill i gymryd rhan. Er nad ydw i erioed wedi bod yn swil, mi enillais gryn dipyn o hyder wrth wneud y gwaith yma, ac erbyn diwedd yr wythnos ro’n i’n teimlo’n eitha trist fod yr holl beth drosodd.
Ar ddiwedd yr Eisteddfod bob dydd, ro’n i’n mynd draw i Ysgol Uwchradd Bodedern lle roedd y Theatr Genedlaethol yn cyflwyno’r ddrama ‘Hollti’. Yma cefais y profiad o weithio ar y drws yn derbyn tocynnau, hebrwng pobl i’w seddau, a gweithio gyda menter ‘Sibrwd’ yn cael gwybod mwy am y cynllun cyfieithu newydd a’i esbonio i unigolion di-Gymraeg. Drwy hyn datblygodd fy sgiliau cyfathrebu a chydweithio, a chefais flas ar yr hyn mae gweithio gyda Theatr Genedlaethol yn eich galluogi i wneud a’r profiadau maen nhw’n gallu eu cynnig.
Rydw i’n awyddus i barhau fy addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Drama a’r Cyfryngau, ac rwy’n ddiolchgar iawn i Llinos a chwmni Theatr Genedlaethol Cymru am roi’r cyfle i mi gael profiad o’r math o waith rwy’n gobeithio ei wneud yn y dyfodol. Cefais lwythi o brofiadau newydd a chyffrous, a hynny mewn cyfnod o ddim ond wythnos. Cefais gyfle i gyfarfod pobl newydd, a chreu cysylltiadau all fod o fudd i mi yn y dyfodol. Mae gweithio gyda’r cwmni wedi rhoi syniad mwy pendant i mi o ’nghynlluniau ar ôl gadael yr ysgol, ac rwy’n mawr obeithio y caf gyfle arall i weithio gyda nhw eto.
Byddwn yn argymell i unrhyw un â diddordeb mewn drama, y theatr neu faes marchnata hefyd i fanteisio ar y cyfle i gael profiad gwaith gyda’r Theatr Genedlaethol. Yn sicr, mae’r profiad wedi bod yn werthfawr a defnyddiol iawn i mi.
Mared Edwards