Mae’r ffilm Macbeth gan Theatr Genedlaethol Cymru bellach ar gael i sefydliadau addysg a dysgwyr.
Ym mis Chwefror 2017, perfformiwyd addasiad Cymraeg Gwyn Thomas o Macbeth gan Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghastell Caerffili. Roedd y cast yn cynnwys Richard Lynch (Macbeth), Ffion Dafis (yr Arglwyddes Macbeth), Gareth John Bale, Siôn Eifion, Owain Gwynn, Phylip Harries, Gwenllian Higginson, Aled Pugh, Martin Thomas, Llion Williams a Tomos Wyn.
“Perthynai statws i bob rhan o’r cynhyrchiad hwn, sy’n wirioneddol werth ei weld.”
(Lowri Cooke yn adolygu Macbeth.)
Fel rhan o Theatr Gen Byw – ein menter beilot newydd, gyffrous – darlledwyd perfformiad 14 Chwefror 2017 o Macbeth yn fyw i ganolfannau ar draws Cymru, yn cynnwys Chapter (Caerdydd), Pontio (Bangor), Galeri Caernarfon, Theatr Colwyn, Theatr y Torch (Aberdaugleddau), Glan yr Afon (Casnewydd), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Neuadd Les Ystradgynlais, Neuadd Dwyfor (Pwllheli), Canolfan Celfyddydau Taliesin (Abertawe) a Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug). Cafwyd ail-ddangosiad hefyd mewn nifer o’r canolfannau, yn ogystal ag mewn ambell ganolfan ychwanegol, drwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill.
Yn sgil y fenter hon, mae cyfle pellach yn awr i sefydliadau addysg – yn benodol ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch – wylio a defnyddio’r ffilm Macbeth at ddibenion addysgol hyd ddiwedd 2017. Mae dau fersiwn o’r ffilm ar gael, sef fersiwn Cymraeg a fersiwn Cymraeg wedi’i isdeitlo.
Mae Pecyn Addysg, sy’n cyd-fynd â’r ffilm, ar gael yma.
Meddai Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae’r ffilm Macbeth gan Theatr Genedlaethol Cymru o’r safon uchaf ac yn sicr yn werth ei gweld. Rydym wrth ein bodd ein bod yn medru ei rhannu gyda’r sector addysg. Mae hyn yn rhan o’n strategaeth gyfranogi ehanagch i greu gwaddol digidol i gyd-fynd â chynyrchiadau at ddefnydd addysgol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion neu fyfyrwyr na lwyddodd i weld y cynhyrchiad yng Nghaerffili, neu mewn darllediad byw neu ail-ddangosiad, i fwynhau’r ffilm wych hon.”
Er mwyn cael gwylio’r ffilm bydd angen i’r sefydliad sy’n ei dangos arwyddo a dychwelyd ffurflen ganiatâd i ddatgan eu bod yn cydymffurfio â’r amodau. Yna, byddant yn derbyn cyfrinair mewngofnodi i gael mynediad at y ffilm. Bydd disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r ffilm at bwrpas addysgol adrodd ar hynny i Theatr Genedlaethol Cymru. Ffurflen ganiatâd ar gael yma.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Llinos Jones, Swyddog Cyfranogi a Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Llinos.jones@theatr.com / 01267 245612 am ragor o wybodaeth.