Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein arlwy ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019. Byddwn ni’n cyflwyno dau gynhyrchiad newydd o dan faner Theatr Gen Creu – gan gynnwys drama fuddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd – yn ogystal â rhaglen amrywiol o sgyrsiau a darlleniadau sy’n rhoi llwyfan i waith-ar-waith y cwmni. Unwaith eto eleni, rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r Pentref Drama fel rhan o bartneriaeth arbennig gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
X gan Rhydian Gwyn Lewis
Drama Fuddugol y Fedal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith.
Dyma ddrama newydd gyffrous am griw ifanc o derfysgwyr Cymraeg sydd wedi’i gosod ar drothwy refferendwm yn y flwyddyn 2039 i benderfynu a ddylai Cymru uno gyda Lloegr i greu gwladwriaeth newydd.
Rhydian Gwyn Lewis yw awdur X – drama fuddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 dan deitl newydd. Daw Rhydian yn wreiddiol o Gaernarfon, ond mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Mae’n naw ar hugain mlwydd oed ac yn gweithio fel Golygydd Sgript i’r gyfres Pobol y Cwm, gan fwynhau ysgrifennu a chyfansoddi yn ei amser hamdden.
Ffion Dafis fydd yn cyfarwyddo X. Yn wreiddiol o Fangor, mae Ffion yn un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru. Mae’n gymeriad amlwg yn y gyfres Byw Celwydd ers rhai blynyddoedd ac yn 2017, hi oedd yr Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth yng Nghastell Caerffili. Mae ei gwaith cyfarwyddo yn cynnwys Y Negesydd (Theatr Genedlaethol Cymru) a Pobol y Cwm.
Bydd tocynnau i weld X yn Theatr y Maes ar gael gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru o
7 Mehefin:
eisteddfod.cymru / 0845 4090 800

Bachu gan Melangell Dolma
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Melangell Dolma a Theatr Clwyd gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru drwy Gronfa Gari, a Chanolfan Mileniwm Cymru. Wedi’i datblygu’n wreiddiol fel rhan o gynllun awduron preswyl Theatr Clwyd, drama i godi’r galon yw hon, yn ymdrin â chariad, cyfeillgarwch a chalonnau dryslyd ar faes yr Eisteddfod.
Actores a dramodydd o sir Feirionnydd yw Melangell Dolma, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2014, mae hi wedi actio mewn cynyrchiadau gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Lucid Theatre, Cwmni’r Frân Wen a Protest Fudr – yn ogystal ag ymddangos ar gyfresi teledu fel Parch, Craith ac Y Gwyll. Bachu yw drama gyntaf Melangell ac fe gafodd ei datblygu’n wreiddiol fel rhan o gynllun awduron preswyl Theatr Clwyd.
Sarah Bickerton – Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru – fydd yn cyfarwyddo Bachu. Yn hanu o ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant, astudiodd Sarah at radd mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn hyfforddi fel cyfarwyddwr gyda Living Pictures a Sherman Cymru. Mae Sarah wedi cyfarwyddo sawl cynhyrchiad ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru (Hollti a Nansi), Sherman Cymru (A Place with the Pigs), Mess up the Mess (Kindling) a Mewn Cymeriad (Pleidiol Wyf i’m Gwlân), yn ogystal â gweithio fel cyfarwyddwr cyswllt a chyfarwyddwr cynorthwyol ar amrywiaeth o gynyrchiadau eraill.
Mae mynediad i weld y ddrama Bachu yng Nghaffi Maes B ar faes yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim.

Ochr yn ochr â’r cynyrchiadau hyn, bydd rhaglen o weithgareddau yn ystod yr ŵyl fydd yn rhoi llwyfan i waith newydd sydd mewn datblygiad gennym. Dyma gyfle unigryw i gael cipolwg ar y dramâu hyn yn nyddiau cynnar eu datblygiad, a chael blas ar brosesau’r awduron a’r artistiaid sy’n eu harwain wrth iddynt fentro ac arbrofi gyda’u crefft a’u syniadau.
Bydd y rhaglen eleni yn cynnwys y canlynol:
- Darlleniad o Branwen – addasiad cyfoes o Ail Gainc y Mabinogi gan y dramodydd Aled Jones Williams, wedi’i gomisiynu gan Theatr Genedlaethol Cymru – a sgwrs gyda’r dramodydd a’r cyfarwyddwr artistig Arwel Gruffydd;
- Theatr Unnos ar y thema Gwely gan un o gyfarwyddwyr cynllun Awenau Theatr Gen Creu, Elen Mair Thomas;
- Sgwrs gyda’r bardd a’r llenor Mererid Hopwood a’r cyfarwyddwr theatr Sarah Bickerton i glywed rhagor am ein cynhyrchiad nesaf sef Y Cylch Sialc, a fydd ar daith ledled Cymru fis Hydref 2019.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig:
“Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn Eisteddfod Llanrwst eleni yn dathlu’r holl elfennau sy’n annatod i waith Theatr Genedlaethol Cymru. O dan faner Theatr Gen Creu, rydyn ni’n falch iawn o roi cyfle i ddau ddramodydd ifanc – Rhydian Gwyn Lewis a Melangell Dolma – weld eu dramâu ar lwyfan am y tro cyntaf, yn ogystal ag estyn cyfleoedd i artistiaid talentog eraill ddatblygu eu crefft. Ochr yn ochr â hynny, bydd rhai o gewri’r byd theatr Cymraeg – fel Aled Jones Williams a Mererid Hopwood – yn rhannu ac yn trafod eu gwaith.”