Dysgwyr
Rhoi theatr Cymraeg wrth galon Cymru yw gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru ac felly rydym yn annog dysgwyr y Gymraeg i ddod i weld a mwynhau ein cynyrchiadau, gyda chefnogaeth ychwanegol drwy becynnau i ddysgwyr a sgyrsiau arbennig cyn y sioe. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth i grwpiau dysgwyr y tu hwnt i’n gwaith ar y llwyfan.
Ar y dudalen hon cewch hyd i’n adnoddau i ddysgwyr, yn ogystal â gwybodaeth am ein gwaith diweddaraf gyda grwpiau dysgwyr ar hyd a lled Cymru.
Gweithdai i Ddysgwyr
Enfys
gan Melangell Dolma

Adnoddau i Ddysgwyr
Isod cewch ddod o hyd i’r Adnoddau i Ddysgwyr a grewyd i gyd-fynd â’n cynyrchiadau diweddar. Mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar thgc@theatr.com
Tylwyth
gan Daf James
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman
Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae’r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.
Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.
Mae Theatr Genedlaethol yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ac rydym wedi rhoi gwers gyfoes at ei gilydd. Mae’r uned hon yn rhoi cyflwyniad i’r ddrama ac yn rhoi cyfle i drafod rhai o’r themâu sy’n gysylltiedig â hi. Gellir dilyn y wers yma.

Archif Adnoddau
Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes, Stonewall Cymru ac OOMFF, gyda chefnogaeth gan Theatr Clwyd
Nyrsys
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi creu gwers gyfoes yn seiliedig ar y cynhyrchiad Nyrsys. Mae’r wers yn rhoi cyfle i ddysgwyr profiadol sydd wedi cyrraedd lefel Uwch gael blas ar y cynhyrchiad. Mae’n cynnwys cyfleoedd i drafod themâu iechyd a’r gwasanaeth iechyd, darn o’r sgript, ymarferion geirfa perthnasol, clipiau fideo o’r caneuon, a nodiadau ar gyfer tiwtoriaid.
Estron
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Theatrau Sir Gâr
Pecyn wedi ei deilwra’n arbennig i ddysgwyr, gyda cyflwyniad i’r ddrama, geirfa newydd, a syniadau ar gyfer trafod y cynhyrchiad.
Nodiadau i’r tiwtor i gyd-fynd â’r uned i ddysgwyr. Bwriad y deunydd yma yw rhoi cyflwyniad i’r ddrama i ddysgwyr sydd ar lefel Uwch a’u hannog i fynd i’w gweld yn y theatr! Mae’n bosib cyflwyno’r elfennau yn yr uned hon dros fwy nag un sesiwn.
Y Tad
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio
Mae gwers gyfoes y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddysgwyr y Gymraeg gael blas ar gynhyrchiad Y Tad.
Hollti
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru
Datblygwyd y pecyn hwn gan Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn gyda chefnogaeth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru.
Macbeth
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter
Datblygwyd y pecynnau yma gan Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn gyda chefnogaeth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r pecyn i diwtoriaid yn benodol ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg lefel Uwch a Hyfedredd.