Oes ganddoch chi ddiddordeb dysgu rhai geiriau Llydaweg dros baned neu pheint cyn dod i weld Merch yr Eog? Cynhelir sgyrsiau anffurfiol cyn sioe yn ystod y daith. Nid oes angen archebu lle o flaen llaw. Ceir manylion isod;
7 Hydref, 6.30yh
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dan arweiniad Aneirin Karadog
17 Hydref, 6.30yh
Galeri Caernarfon
Dan arweiniad Dominic Kervegant
20 Hydref, 6.30yh
Yr Atom Caerfyrddin
Dan arweiniad Aneirin Karadog
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Llinos Jones – llinos.jones@theatr.com / 01267 245612.