Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Dyrchafaf Fy Llygaid i’r Mynyddoedd!

Gan Arwel Gruffydd

Arwel-gwefan

A minnau yn un sy’n mwynhau ymweld â’r Alpau yn y gaeaf, profiad rhyfedd, ond dymunol iawn, oedd ymweld yn haul braf mis Mehefin y llynedd â thref sy’n elwa’n fawr, ben arall y flwyddyn, ar ddiwydiant sgïo.

A minnau yn un sy’n mwynhau ymweld â’r Alpau yn y gaeaf, profiad rhyfedd, ond dymunol iawn, oedd ymweld yn haul braf mis Mehefin y llynedd â thref sy’n elwa’n fawr, ben arall y flwyddyn, ar ddiwydiant sgïo. Mae dinas Bruneck yn Yr Eidal (neu Brunico, fel y’i gelwir yn yr Eidaleg) yn brif ddinas rhanbarth yng Ngogledd yr Eidal o’r enw De Tyrol. Mae Gogledd Tyrol yn rhan o Awstria erbyn hyn, yr ochr arall i’r mynyddoedd sy’n gwahanu’r diriogaeth. Mae hyn yn ganlyniad i ail ddiffinio ffiniau’r rhan yma o Ewrop yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Prif iaith y rhan yma o’r Eidal felly yw’r Almaeneg. Oherwydd y dylanwadau ieithyddol a diwylliannol gwahanol sydd wedi bod ar ei phobl dros y canrifoedd, mae Almaeneg De Tyrol yn eithaf gwahanol i Almaeneg yr Almaen neu Awstria. O ganlyniad i hyn oll, fe ystyrir Almaeneg De Tyrol yn iaith leiafrifol yn Yr Eidal. Hefyd, mae trigolion De Tyrol yn teimlo nad ydyn nhw yn perthyn yn llawn rhywsut i’r Eidal nac i Awstria. Tydi hyn ond yn un enghraifft o sut mae diwylliannau ieithyddol leiafrifol ar draws Ewrop yn gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd yn y manylion sy’n eu diffinio. Yr hyn sydd gennym yn gyffredin yw’r ffaith ein bod yn cael ein diffinio fel lleiafrif ieithyddol, mond mae profiad pob diwylliant ieithyddol leiafrifol yn bur wahanol.

Oddi ar 2012, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi ymdrechu gyda chyfeillion ar draws Ewrop i greu rhwydwaith o gwmnïau theatr sy’n cynrychioli diwylliannau ieithyddol leiafrifol. Gyda chymorth ariannol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, derbyn gwahoddiad oedd y cam cyntaf, gan gwmni o’r enw Deutsch-Sorbisches Volkstheater i ymuno a nhw yn eu cartref yn ninas Bautzen yn nwyrain Yr Almaen, mewn cynhadledd i archwilio’r potensial o greu rhwydwaith o’r fath. Mae’r cwmni hwn, yn ogystal â chreu gwaith yn Yr Almaeneg, yn creu theatr yn yr iaith Sorbeg, sef iaith leiafrifol yn y rhan yma o’r Almaen a elwir yn Lusatia.

Y cam diweddaraf yn y prosiect hwn, eto gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, oedd mynd gyda Chynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru, Rhian A. Davies, i gwrdd eto yn Bruneck ym mis Mehefin y llynedd, a hynny yng nghartref un o bartneriaid y prosiect, y Stadttheater Bruneck, er mwyn ffurfio cais ar y cyd gyda nifer o gwmnïau eraill i greu darn o waith a fyddai’n datblygu’r berthynas rhwng y cwmnïau hynny ac yn datblygu’r rhwydwaith eang ac amrywiol hwn. Profiad chwithig iawn oedd bod yng nghwmni nifer o gynrychiolwyr o gwmnïau theatr ledled Ewrop i ddatblygu prosiect uchelgeisiol a fydd yn dod â phobl ynghyd a rhannu profiadau ar draws ffiniau gwladwriaethol, a chyd-gynllunio yr un pryd gais am nawdd ar gyfer y prosiect hwnnw i gronfa Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, pan ddaeth y newyddion fod pobl y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio mewn refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mater arall yw hwnnw.

Beth bynnag am y bleidlais honno, a beth bynnag am berthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd yn symud ymlaen, y bwriad o hyd yw parhau i gydweithio â chwmnïau ledled Ewrop sy’n rhannu gyda ni brofiadau ieithoedd bychain a diwylliannau lleiafrifol a’r awydd i gyd-weithio a dysgu oddi wrth ein gilydd; a maes o law, i wneud cais i’r Undeb Ewropeaidd am nawdd i gefnogi ein menter.

 

Diolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am gefnogi’r daith hon.

 

IMG_4557

IMG_4578

 

 

 

 

 

 

Print

Categorïau: Blog Awdur: Lowri Johnston

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

Dilynwch ni!

Twitter
Instagram
Facebook
Youtube
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government