Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Dyfan Roberts i chwarae rhan Y Tad yng nghynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru

26/10/2017

Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi mai Dyfan Roberts fydd yn chwarae rhan Y Tad yn eu cynhyrchiad nesaf o’r un enw, a hynny yn ystod Chwefror a Mawrth 2018. Mae Dyfan yn actor profiadol tu hwnt ac yn enw cyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymraeg. Mae ei waith diweddar yn cynnwys: Pum Cynnig i Gymro (Theatr Bara Caws) (Enwebwyd ar gyfer Gwobr Actor Gorau, Gwobrau Theatr Cymru 2016) a Merch yr Eog (Theatr Genedlaethol Cymru). Mae ei waith ffilm yn cynnwys Un Nos Ola Leuad a Gwaed ar y Sêr.

Yn ymddangos gyda Dyfan Roberts fe fydd cast cryf o actorion sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd ynghyd â rhai llai cyfarwydd hefyd, sef Catrin Mara, Dafydd Emyr, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn a Mirain Fflur.

Arwel Gruffydd fydd yn cyfarwyddo Y Tad, sy’n drosiad newydd i’r Gymraeg gan Geraint Løvgreen o’r clasur cyfoes, Le Père gan Florian Zeller. Mae’r ddrama yn waith buddugol y gystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Enillodd y ddrama wreiddiol Wobr Molière 2014 am y Ddrama Orau. Bydd hwn yn gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio.

Dyma stori ddirdynnol am ŵr sy’n ceisio deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad. Mae’r ddrama’n rhan o dymor o waith i ddod gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018 sy’n archwilio Gofal a Chymuned, i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed ac i ddathlu cyfraniad allweddol y celfyddydau wrth fynd i’r afael â lles cymdeithasol. Bydd y cwmni’n gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys Age Cymru ac Alzheimer’s Society Cymru, er mwyn cael cyngor arbenigol i gefnogi’r cynhyrchiad a’r tymor hwn.

Mae Y Tad yn edrych yn arbennig ar gyflwr dementia – pwnc sy’n dod yn fwyfwy cyfarwydd yn y byd sydd ohoni – a’r effaith a gaiff y salwch ar yr unigolyn, y teulu a’r cartref. Wrth feirniadu cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, disgrifiodd Gareth Miles drosiad Geraint Løvgreen fel “cyfraniad gwiw i’n theatr gyfoes”.

Meddai’r Guardian am Florian Zeller, awdur Le Père: “The most exciting new theatre writer of our time.”

Meddai adolygwyr am y ddrama eithriadol hon:

“… one of those plays that makes your brain hum with the unique potential of theatre.”  The Independent

“An unqualified triumph.”  The Telegraph

 

Taith Genedlaethol:

Bydd Y Tad i’w gweld mewn saith canolfan ledled Cymru.

Pontio, Bangor: Rhag-ddangosiad: 21 Chwefror 7.30yh / 22 Chwefror 7.30yh / 23 Chwefror 2yp a 7.30yh. (Sgwrs i ddysgwyr cyn y sioe 21 Chwefror a sgwrs wedi’r sioe 22 Chwefror)

Canolfan Celfyddydau Pontardawe: 27 Chwefror 7.30yh / 28 Chwefror 11yb. (Sgwrs wedi’r sioe 27 Chwefror)

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron: 2 Mawrth 1yp a 7.30yh / 3 Mawrth 7.30yh. (Sgwrs wedi’r sioe 7.30yh, 2 Mawrth)

Theatr y Lyric, Caerfyrddin: 6 Mawrth 1yp a 7.30yh.

Theatr y Sherman, Caerdydd: 8 Mawrth 7.30yh / 9 Mawrth 1.30yp a 7.30yh. (Sgwrs wedi’r sioe 8 Mawrth)

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13 Mawrth 7.45yh / 14 Mawrth 1.30yp a 7.45yh. (Sgwrs wedi’r sioe 13 Mawrth)

Canolfan Gartholwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd: 16 Mawrth 1yp a 7.30yh. (Sgwrs cyn y sioe 1yp)

 

Wrth gyhoeddi’r cast, dywedodd Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr y ddrama a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae Dyfan yn un o’n hactorion mwyaf talentog a phrofiadol, ac mae gofyn iddo fod! Mae’r rôl hon wedi’i henwi gan sawl beirniad fel Brenin Llŷr y ddrama gyfoes! Nid mod i eisiau codi ofn ar Dyfan! Ond mae ganddo ‘ensemble’ cryf eithriadol i’w gefnogi – pob un yn actorion yr ydw i’n methu aros i gydweithio efo nhw ar y ddrama arbennig hon.”

Dywedodd Dyfan Roberts ynglŷn â chwarae’r rhan:

“Yn fy holl yrfa fel actor ers 1970, rhan Y Tad yw’r sialens theatrig fwyaf i mi ei hwynebu. Ond rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr her. Mae hi’n ddrama gwerth ei gwneud, ar lawer ystyr.“

Bydd tocynnau’n mynd ar werth gan y canolfannau o fis Tachwedd ymlaen.

Categorïau: Newyddion Awdur: Mair Jones

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Gobeithio i chi gyd lwyddo i fachu cusan fach ar ddydd Santes Dwynwen heddi! ❤ Hands up who's nabbed a little kiss… https://t.co/UjSyOfmS1905:00 25/01/2021
  • MACBETH Ar gael o 7pm nos Fercher 27 Ionawr. Capsiynau Caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael. Available from 7pm Wedn… https://t.co/fKdnHaypgM10:34 25/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government