Dwy Stori, Un Llwyfan – project sy’n dod â dwy genhedlaeth at ei gilydd dan adain Gŵyl Gwanwyn Age Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Menter Gorllewin Sir Gâr ar broject sy’n dod ag aelodau Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a’r Fenter, ac aelodau hŷn o gymunedau Sir Gâr ynghyd.
Wrth i ddwy genhedlaeth ddod ynghyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol – drama, dawns a chân – bydd y project hwn yn cynnig cyfle iddyn nhw feddwl yn greadigol am les ei gilydd a datblygu meddwl a chorff iach. Bydd yn magu hunan-hyder yn y ddwy genhedlaeth ac yn eu hannog i sgwrsio gyda’i gilydd ac ymateb yn greadigol.
Mae Dwy Stori, Un Llwyfan yn rhoi cyfle inni herio syniadau rhagdybiedig am heneiddio ac annog y ddwy genhedlaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy greu a bod yn greadigol. Mae’n cynnig cyfleoedd newydd yn y gymuned leol i ddatblygu sgiliau actio a pherfformio drwy’r iaith Gymraeg, mewn awyrgylch diogel a chreadigol, dan adain artistiaid proffesiynol.
Bydd y sesiynau drama, dawns a chân yn rhoi cyfle i bobl hŷn ddatblygu sgiliau actio, dawnsio a chanu a’u galluogi i dyfu’n greadigol a chreu yng nghwmni’r ifanc. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnig profiadau amrywiol a phwysig i bob cenhedlaeth, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o’r gymuned, mewn awyrgylch diogel a chreadigol yng nghwmni teulu a ffrindiau.
Cynhelir y sesiynau creadigol hyn yn ystod gweithdai wythnosol Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr. Clwb drama yw hwn i ddisgyblion ysgolion cynradd Sir Gâr (blynyddoedd 3 i 6) i’w helpu i ddatblygu sgiliau actio a magu hyder, a mwynhau drama a gwaith theatr. Mae’r clwb yn cyfarfod yn wythnosol yn Y Llwyfan, Caerfyrddin, sef cartref Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae’r sesiynau creadigol yn rhedeg o 10 Ebrill – 22 Mai, ac yn goron ar y cyfan trefnir Dangosiad o’r gwaith yn Cartref Cynnes, Caerfyrddin ar 23 Mai 2019.
Hoffech chi fod yn rhan o’r sesiynau? Cysylltwch â ni ar thgc@theatr.com neu ffoniwch 01267 233882.
Amserlen ar gyfer y sesiynau
10/04/2019 Sesiwn ‘dod i adnabod ein gilydd’ yng nghwmni Mel, fydd yn gwneud y props ar gyfer y Dangosiad gyda ni. 6pm–7.30pm, Y Llwyfan
01/05/2019 Sesiwn Dawns: 6pm–7.30pm, Cartref Cynnes, Caerfyrddin
08/05/2019 Sesiwn Cerdd: 6pm–7.30pm, Cartref Cynnes, Caerfyrddin
15/05/2019 Sesiwn Drama: 6pm–7.30pm, Cartref Cynnes, Caerfyrddin
22/05/2019 Sesiwn rhoi popeth at ei gilydd ar gyfer y dangosiad: 4pm–6.30pm, Cartref Cynnes, Caerfyrddin
23/05/2019 Dangosiad Gwanwyn yn Cartref Cynnes, Caerfyrddin. Plant i gyrraedd am 4.30pm. Sioe i gychwyn am 6pm. Mae croeso i bawb aros am baned a chacen ar y diwedd.
Cefnogwyd y project hwn gan Ŵyl Gwanwyn Age Cymru, gŵyl genedlaethol sy’n dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn yng Nghymru.



10 Ebrill 2019