Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Enfys_GwefanMawr(1200x800)

Rydym yn falch o gyhoeddi mai Enfys gan Melangell Dolma yw’r ddrama gyntaf mewn cyfres o Ddramâu Micro gennym ni, BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru.

Yn y bartneriaeth gyntaf hon o’i math, rydym ni’n cydweithio gyda BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru i ddatblygu profiadau theatrig i’n cynulleidfaoedd fwynhau ar blatfformau digidol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r dramâu byrion wedi’u hysgrifennu gan rai o’n aelodau Grŵp Dramodwyr Newydd ac wedi’u creu o dan amgylchiadau ymbellhau cymdeithasol

Melangell Dolma yw’r dramodydd. Yn wreiddiol o Lanfrothen yn Sir Feirionydd, mae Melangell wedi bod yn Awdur Preswyl yn Theatr Clwyd ac yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Cafodd ei drama gyntaf, Bachu, ei llwyfannu yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Mae Melangell hefyd yn actores ac wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau theatr a chyfresi teledu.

Dyma’r ail brosiect i Rhian Blythe gyfarwyddo ers bod o dan ein mentoriaeth drwy gynllun Awenau. Mae gwaith teledu diweddar Rhian fel actores yn cynnwys Morfydd, Deian a Loli ac Un Bore Mercher i S4C. Mae ei gwaith llwyfan yn cynnwys ein cynhyrchiad o Blodeuwedd, Dros y Top i Theatr Bara Caws, a Deep Cut i Theatr y Sherman.

Mae Richard Nichols yn actor o Borthcawl. Mae wedi ymddangos mewn nifer fawr o berfformiadau theatr gan gynnwys Penblwydd Poenus Pete (Theatr Iolo) ac An Enemy of the People (Theatr Clwyd) a hefyd yn wyneb gyfarwydd ar y teledu ar ôl ymddangos yn Dr Who (BBC), Byw Celwydd a Pobol y Cwm (S4C) i enwi ond rhai.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol. Ceir rhagor o fanylion am Enfys yma.

Headshots_Twitter

Melangell Dolma, Richard Nichols, Rhian Blythe

9 Mehefin 2020

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

Dilynwch ni!

Twitter
Instagram
Facebook
Youtube
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government