Rydym yn falch o gyhoeddi mai Carys ac Andy gan Elin Gwyn yw’r ail mewn cyfres o Ddramâu Micro gennym ni, BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru.
Yn y bartneriaeth gyntaf hon o’i math, rydym ni’n cydweithio gyda BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru i ddatblygu profiadau theatrig i’n cynulleidfaoedd fwynhau ar blatfformau digidol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r dramâu byrion wedi’u hysgrifennu gan rai o aelodau ein Grŵp Dramodwyr Newydd ac wedi’u creu o dan amgylchiadau ymbellhau cymdeithasol.
Gyda Ffion Dafis yn cyfarwyddo’r actorion Tara Bethan, Carwyn Jones a Sara Gregory, mae Carys ac Andy yn adrodd hanes cwpl sy’n ceisio cadw eu perthynas yn fyw yn ystod y clo mawr gan ddefnyddio Zoom a Facetime. Bydd y ddrama ar gael i’w gwylio ar dudalen Facebook BBC Cymru Fyw nos Fercher 17 Mehefin am 6yh; bydd yn ymddangos hefyd ar ein sianeli YouTube ac AM gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg.
Elin Gwyn yw’r dramodydd. Mae Elin yn gweithio fel awdur a chynhyrchydd i Gwmni Da yng Nghaernarfon, ac yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar Person/a, cyfres ddrama newydd ar gyfer pobl ifanc. Cafodd Ffarwel pennod o Deian a Loli gan Elin, ei henwebu ar gyfer BAFTA Cymru y llynedd yn y categori ‘Rhaglen Blant Orau’. Mae’n falch o fod yn gwneud cwrs meistr gyda John Yorke trwy TAC ac S4C dros yr wythnosau nesaf. Mae Elin yn byw yn Rhosgadfan gyda Macsen y ci.
Dyma’r trydydd ynhyrchiad i Ffion Dafis ei gyfarwyddo i ni yn Theatr Genedlaethol Cymru – hi oedd cyfarwyddwr X yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy y llynedd. Yn wreiddiol o Fangor, mae Ffion yn un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru. Mae’n gymeriad amlwg yn y gyfres Byw Celwydd (S4C) ers rhai blynyddoedd ac yn 2017, hi oedd yr Arglwyddes Macbeth yn ein cynhyrchiad ni o Macbeth yng Nghastell Caerffili. Mae ei gwaith cyfarwyddo yn cynnwys X, Y Negesydd (Theatr Genedlaethol Cymru) a Pobol y Cwm (S4C).
Dechreuodd gyrfa Tara Bethan yn 13 oed yn y West End yn Bugsy Malone cyn hyfforddi yn Redroof Theatre School a chael lle fel un o’r 10 olaf wrth i Andrew Lloyd Webber geisio am Nancy newydd yn rhaglen I’d Do Anything y BBC. Ar ôl hynny aeth ar daith am 18 mis drwy’r DU yn rôl y Storïwr yn Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat. Mae ei gwaith theatr diweddar yn cynnwys y daith lwyddiannus iawn o Llyfr Glas Nebo (Frân Wen) yn gynharach eleni. Mae ei gwaith teledu’n cynnwys 35 Awr, Gwaith / Cartref a chwe mlynedd ar Pobol y Cwm (S4C) a Footballers Wives (ITV).
Yn wreiddiol o Ynys Môn fe astudiodd Carwyn Jones yn y Guildhall School of Music and Drama yn Llundain. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac wedi gweithio i nifer o gwmnïau theatr yng Nghymru, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Bara Caws a Frân Wen, gyda’r cynhyrchiad Dim Diolch (Frân Wen) yn ennyn enwebiad iddo fel yr Actor Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau ar S4C, gan gynnwys 35 Awr a’r gyfres sydd wedi ennill BAFTA Cymru, Deian a Loli.
Mae Sara Gregory yn enillydd BAFTA Cymru (Alys, 2013) sydd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau theatr i Theatr Bara Caws, Theatr y Sherman, National Theatre Wales, ac yn fwyaf nodedig cynhyrchiad Theatr Clwyd a National Theatre, Home I’m Darling. Mae gwaith teledu Sara yn cynnwys rôl reolaidd yn y gyfres gomedi byrfyfyr Tourist Trap (BBC), yn ogystal ag Alys, Byw Celwydd, a Parch (S4C), i enwi ond rhai.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.
Ceir rhagor o fanylion am Carys ac Andy yma.

Elin Gwyn, Tara Bethan, Carwyn Jones, Sara Gregory, Ffion Dafis
17 Mehefin 2020