Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Drama fuddugol yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol

20/07/2016

Bydd Rhith Gân, drama fuddugol Wyn Mason yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015, yn cael ei llwyfannu yn y Cwt Drama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni a’r Cyffiniau eleni. Hon fydd prif ddrama’r wythnos yn y Pentref Drama, a chaiff ei chyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Perfformir Rhith Gân o ddydd Llun y 1af o Awst tan ddydd Gwener y 5ed o Awst. Seiliwyd y ddrama ar ‘Y Bardd Anfarwol’, albwm gwobrwyol Gareth Bonello (The Gentle Good). Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru, sy’n cyfarwyddo’r ddrama. Gareth Bonello yw’r Cyfarwyddwr Cerdd, Luned Gwawr Evans yw’r Cynllunydd, Gareth Brierly yw’r Cynllunydd Sain a Ceri James yw’r Cynllunydd Goleuo.

Yr actorion fydd Rhodri Evan, Saran Morgan, Nia Roberts a Llion Williams, ac fe fydd Gareth Bonello hefyd yn perfformio rhannau o’i ganeuon o’r albwm.

Meddai Wyn Mason, awdur y ddrama:
“Dwi’n ei hystyried yn fraint bod fy nrama’n cael ei pherfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Fe ddechreuais ysgrifennu’r ddrama dros dair mlynedd yn ôl, ac roedd ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod y llynedd yn brofiad arbennig. Mae’n braf nawr gweld y gwaith hwnnw’n dod yn fyw yn yr ystafell ymarfer. Dwi yn edmygu gwaith Gareth Bonello, ac roedd yr albwm cysyniadol ‘Y Bardd Anfarwol’ am fardd Tseiniaidd, Li Bai, yn cynnig ei hunan yn berffaith i mi ar gyfer ei datblygu yn ddrama lwyfan. Ro’n i’n hynod o falch pan gytunodd Gareth i mi weithio arni a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn cael ei berfformio yn yr Eisteddfod.”

Cyfansoddodd Gareth yr albwm ‘Y Bardd Anfarwol’ yn 2011, yn dilyn treulio cyfnod preswyl o chwech wythnos yn Tsieina gyda’r Chengdu Associated Theatre of Performing Arts, dan nawdd y Cyngor Prydeinig a PRSF.

Meddai Gareth Bonello, cyfansoddwr ‘Y Bardd Anfarwol’:
“Roedd y cyfnod preswyl yn Tseinia yn gyfle arbennig i mi ymchwilio i gerddoriaeth draddodiadol Tsieiniaidd a llenyddiaeth, ac i gydweithio gydag artistiaid cerddorol lleol. Pan ddychwelais i Gymru fe fues i’n gweithio gyda’r cyfansoddwr Seb Goldfinch, The Mavron String Quartet a’r UK Chinese Ensemble i greu albwm ‘Y Bardd Anfarwol’, sy’n adrodd hanes y bardd Tsieiniaidd Li Bai. Y peth arbennig nawr yw bod ’na gam arall i hanes yr albwm, sef cael ei droi’n gynhyrchiad theatrig. Mae’n fraint i mi gael cyfle i weithio gyda Wyn Mason a Theatr Genedlaethol Cymru i wireddu hyn, ac mae’n brofiad newydd i mi i fod yn gweithio gyda chriw o bobl i roi’r cyfan at ei gilydd.”

Enillodd ‘Y Bardd Anfarwol’ wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2014. Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae’r perfformiad o waith buddugol y Fedal Ddrama yn y Cwt Drama wedi hen ennill ei blwyf fel un o brif ddigwyddiadau theatrig wythnos yr Eisteddfod. Pleser i ni fel cwmni eleni yw cyflwyno drama Wyn Mason sydd wedi ei seilio ar albwm gwych Gareth Bonello. Mae’n brosiect cyffrous iawn, gyda nifer o elfennau gwahanol i ddiddanu’r gynulleidfa. Gyda’r holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y sioe gyfatebol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwy’n annog y gynulleidfa i brynu eu tocynnau’n gynnar i osgoi siom!”

Manylion perfformio:
Rhith Gân
1 – 5 Awst 2016, 6yh
Cwt Drama, Maes Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni

Tocynnau ar werth gan yr Eisteddfod Genedlaethol – www.eisteddfod.cymru / 0845 4090 900. Pris tocyn – £5 (yn ychwanegol at docyn maes).

*Mae’r ddrama’n cychwyn yn brydlon am 6, ac ni chaniateir mynediad i hwyr ddyfodiaid.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Lowri Johnston, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru; lowri.johnston@theatr.com / 01267 245617.

Categorïau: Newyddion Awdur: Lowri Johnston

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

Dilynwch ni!

Twitter
Instagram
Facebook
Youtube
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government