Bydd Estron, drama fuddugol Hefin Robinson yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni a’r Cyffiiau 2016, yn cael ei llwyfannu yn y Cwt Drama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni. Hon fydd prif ddrama’r wythnos yn y Pentref Drama, a chaiff ei chyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Perfformir Estron o ddydd Llun y 7fed o Awst i ddydd Gwener yr 11eg o Awst. Dyma ddrama newydd ac amgen, sy’n dilyn stori Alun, dyn ifanc sy’n delio â digwyddiadau ysgytwol diweddar ac sy’n ceisio cysur mewn ymwelydd o fyd arall.
Janet Aethwy fydd yn cyfarwyddo’r ddrama (cyfarwyddwr La Primera Cena, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015). Heledd Rees fydd y Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Will Evans yn Gynllunydd Goleuo a James Marsh yn Gynllunydd a Pheiriannydd Sain.
Yr actorion fydd Gareth Elis, Ceri Elen ac Elin Llwyd.
Meddai Hefin Robinson, Awdur Estron;
“Mae Estron yn fyfyrdod theatrig ar ein bywydau fel bodau dynol ar y blaned hon. Mae’n daith wyllt, chwareus ac emosiynol sydd yn adlewyrchu unigrwydd ac egni ein byd modern. Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio gyda Janet a’r Theatr Genedlaethol er mwyn datblygu’r sgript ar gyfer y Cwt Drama eleni, gan obeithio bod Estron yn cynnig profiad newydd a chyfoes o theatr ar gyfer y genhedlaeth hon. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael rhannu’r ddrama gyda chynulleidfa am y tro cyntaf.”
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru;
“Mae’r perfformiad o waith buddugol y Fedal Ddrama yn y Cwt Drama wedi hen ennill ei blwyf fel un o brif ddigwyddiadau theatrig wythnos yr Eisteddfod. Pleser i ni fel cwmni eleni yw cyflwyno drama Hefin Robinson, awdur newydd a dderbyniodd feirniadaeth ragorol gan feirniaid cystadleuaeth y Fedal Ddrama. Mae’n ddrama arbennig a gyda’r holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y sioe gyfatebol dros y dair mlynedd diwethaf, rwy’n annog y gynulleidfa i brynu eu tocynnau’n gynnar i osgoi siom!”
Manylion perfformio:
Estron
7 – 11 Awst 2017, 6yh
Cwt Drama, Maes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Tocynnau ar werth gan yr Eisteddfod Genedlaethol – www.eisteddfod.cymru / 0845 4090 900. Pris tocyn – £5 (yn ychwanegol at docyn maes).
Mae’r ddrama yn cychwyn yn brydlon am 6yh, ac ni chaniateir mynediad i hwyr ddyfodiaid.