Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

DOSBARTH MEISTR GWOBR RICHARD BURTON

06/03/2017

Theatr-gwefan

Dros y blynyddoedd mae Gwobr Richard Burton wedi rhoi cyfle i rai o berfformwyr blaenaf Cymru gael profiad o fod ar lwyfan.  Erbyn hyn, mae’r gystadleuaeth ymhlith perfformiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, a’r bwriad eleni yw rhoi hwb ac arweiniad i’r rheiny sy’n ystyried cystadlu am y wobr yn Eisteddfod Ynys Môn.

Cynhelir dau weithdy arbennig ar 1 Ebrill, un yng nghartref Theatr Genedlaethol Cymru, Y Llwyfan, Caerfyrddin a’r llall yn Pontio, Bangor, a dywed Carys Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Drama’r Eisteddfod, “Mae hwn yn gyfle arbennig i berfformwyr ifanc weithio gyda dau sy’n hynod brofiadol yn y maes, sef Steffan Donelly ac Aled Pedrick.  Gobeithio y bydd naws dosbarth meistr y dydd yn fuddiol iawn ac y bydd perfformwyr yn teimlo ei fod yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd, gan gynnwys y defnydd o lais ac osgo, symud ar lwyfan a chyfathrebu gyda’r gynulleidfa.

“Mae Gwobr Richard Burton yn rhan bwysig a phoblogaidd o’r Eisteddfod, a’r gobaith yw y gallwn ddenu hyd yn oed rhagor i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.  Bydd y diwrnod hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau perfformio monolog ar gyfer clyweliadau i golegau, gan weithio gydag ymarferwyr theatr profiadol yn eu maes.

“Dyma’r tro cyntaf i ni drefnu diwrnod o’r fath, a hynny yn ystod y cyfnod pan fydd pobl yn ystyried cystadlu yn yr Eisteddfod eleni.  Rydym yn ddiolchgar iawn i Gwmni Drama Cymraeg Llanelli am eu cefnogaeth hael er mwyn ein galluogi i gynnal y ddau ddigwyddiad, a diolch hefyd i Pontio a Theatr Genedlaethol Cymru am eu cefnogaeth.  Rwy’n sicr y bydd nifer yn mwynhau ac yn cael budd o’r hyn a fydd ar gael yng Nghaerfyrddin a Bangor ar 1 Ebrill.”

Dim ond lle i bymtheg sydd ar y ddau gwrs, a chynigir lle ar sail y cyntaf i’r felin.  Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu gyda sioned@eisteddfod.org.uk cyn 15 Mawrth.

Cofiwch mai 1 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod, a gellir cofrestru ar-lein drwy fynd i www.eisteddfod.cymru.  Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Categorïau: Newyddion Awdur: Mair Jones

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

Dilynwch ni!

Twitter
Instagram
Facebook
Youtube
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government