Pobol ifanc Môn yn creu ac ysgrifennu
Profiad arbennig iawn oedd cyfarfod disgyblion Ysgol Bodedern, Ynys Môn, yn ddiweddar – roedden nhw’n llawn syniadau ac yn hapus iawn i rannu sgwrs.
Cychwynnais y diwrnod trwy ddod i adnabod y disgyblion, cyn eu hannog i greu gwaith celf â geiriau ar y thema “Beth sy’n arbennig am fod yn berson ifanc ar yr ynys heddiw, ac yfory?” – a sut maen nhw’n gweld yr ynys ymhen deng mlynedd os daw’r Wylfa Newydd i fodolaeth?
Cefais atebion gwych a lliwgar ganddyn nhw. Sylweddolais yn fuan iawn fod gwreiddiau’r bobol ifanc hyn yn ddwfn yn yr Ynys, a’u bod yn ymfalchïo yn eu hardal, eu hysgol a’u cymuned.
Daeth Manon Wyn Williams, awdures Hollti, i ymuno â ni yn y prynhawn am sesiwn o ddysgu sut i greu drama gair-am-air, fel y gwnaeth hithau gyda Hollti. Roedd criw’r chweched yn gêsys, ac yn weithgar, a braf iawn oedd bod yng nghwmni pobol ifanc oedd yn amlwg yn caru drama.
Bydd criw’r chweched yn creu eu drama gair-am-air eu hunain dros yr wythnosau nesaf, a gellir gwrando ar y ddrama fer honno’n cael ei darllen yng Nghaffi’r Theatrau ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 12:30 yp ar y dydd Gwener. Mae croeso cynnes iawn i bawb ymuno â ni i glywed gwaith newydd gan rai o bobol ifanc Môn.
Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb am y croeso, ac am fod yn barod i leisio barn. Edrychaf ymlaen yn arw at weld bob un o’r criw ar faes yr Eisteddfod yn y dyfodol agos!