18.10.2018
Yfory, fe fyddwn ni’n ffarwelio ag un aelod o’n staff, Morgan James, sydd wedi bod yn dilyn cwrs prentisiaeth gyda’r cwmni.
Mae hon yn brentisiaeth o fewn y gweithle, lle mae’r unigolyn yn derbyn hyfforddiant ac yn datblygu sgiliau ym maes cynhyrchu a’r theatr dechnegol: sain, goleuo a rheoli llwyfan. Mae’n gynllun blwyddyn sy’n cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru a Choleg Caerdydd a’r Fro. Wrth ddilyn y brentisiaeth hon, mae Morgan wedi derbyn Tystysgrif Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol: Sain, Golau a Llwyfan. Yn ogystal â chymhwyster prentis, mae Morgan wedi llwyddo i ennill gwobr Efydd ABTT fel meincnod, gan gwblhau’r nifer mwyaf o unedau posib yn ystod ei gyfnod gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r brentisiaeth wedi golygu gweithio gyda gwneuthurwyr proffesiynol a’u cysgodi wrth iddyn nhw rigio, gweithredu offer sain, goleuo, fideo, hedfan darnau o set a phrops ar gynyrchiadau, treulio ambell ddiwrnod yn y Coleg a hyfforddi gyda chanolfannau eraill megis Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Felly, i ddiolch iddo am ei holl waith caled, dyma holi Morgan am ei brofiadau gyda’r cwmni . . .
5 cwestiwn difrifol . . .
Pryd ddechreuaist ti ar dy brentisiaeth gyda Theatr Gen, a pham est ti ati i wneud cais am y cyfle?
Ddiwedd Hydref 2017 mi wnes i ddechrau efo’r Theatr Gen. Ro’n i’n gweithio o fewn y diwydiant yn barod, a gan mod i’n ifanc mi benderfynais fynd am y cyfle i ddysgu lot mwy am y byd technegol.
Ar ba gynyrchiadau wyt ti wedi gweithio?
Dwi wedi bod yn rhan o bob un o gynyrchiadau Theatr Gen eleni – Y Tad, Estron, yr Eisteddfod Genedlaethol – ac fe fydda i’n symud ymlaen i weithio ar Nyrsys nesaf.
Pan un oedd dy hoff gynhyrchiad?
Estron oedd fy ffefryn; ro’n i’n gweithio’n llawn-amser arno, ac yn hoff iawn o’r gwaith technegol oedd yn rhan o’r sioe.
Oes yna uchafbwynt yn sefyll allan o dy gyfnod yma?
Dwi’n meddwl mai naill ai’r Eisteddfod Genedlaethol neu Estron sy’n sefyll allan fel uchafbwyntiau i mi. Roedd y ddau’n dechnegol iawn, ac mi wnes i hefyd fwynhau gweithio efo gweithwyr llawrydd.
Beth wyt ti’n obeithio’i wneud nesaf?
Nyrsys sy nesaf – dwi wedi cael fy ngwahodd i weithio’n llawrydd fel Sain Rhif 2 a Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol.
2 gwestiwn digywilydd . . .
Pwy sy’n gwneud y baned orau yn swyddfeydd Theatr Gen?
Dwi’n meddwl ei fod yn gyfartal rhwng Ffen a Nesta – dwy dda iawn am baned!
Beth fyddi di’n golli am weithio gyda ni?
Y croeso sy’n rhan o’r cwmni – mae ’na wastad groeso cynnes yma!
Mae Angharad Davies, Pennaeth Cynhyrchu’r cwmni, yn dymuno diolch i Morgan am ei waith:
Diolch i Morgan am ei waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth iddo gynorthwyo’r adran gynhyrchu a gweithredu ar gynyrchiadau’r cwmni ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Yr hydref hwn, mi fydd Morgan yn dychwelyd atom fel unigolyn llawrydd Sain ar daith cynhyrchiad Nyrsys. Pob lwc i ti am yrfa lwyddiannus o fewn y maes hwn. Cer amdani, Morgan!
Hoffai’r cwmni ddiolch i Morgan am ei holl waith caled yn ystod ei gyfnod yma, a dymunwn bob lwc a llwyddiant iddo yn y dyfodol!

Morgan gyda’n Swyddog Technegol Ffen Evans a’n Pennaeth Cynhyrchu Angharad Mair Davies.