Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Dewch i ddysgu mwy am Miriam Elin Jones a Naomi Nicholas – dau aelod o’n Grŵp Dramodwyr Newydd.

Bydd darlleniadau cyhoeddus o Nyts Nag’yn Ni? gan Miriam Elin Jones, a Wyau gan Naomi Nicholas yn Ffwrnes, Llanelli ar 18 Mehefin (tocynnau) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 19 Mehefin (tocynnau).

Miriam Elin Jones

Sq-Miriam_Elin_Jones

Nyts, Nag’yn Ni?

Mae Eleri yn gwneud pob dim o fewn ei gallu i ddal ei gafael ar yr unig beth sefydlog yn ei bywyd, ond dyw hynny ddim yn hawdd pan fo hwnnw, Gavin, yn gyndyn iawn o ymrwymo i unrhyw
beth . . .

Beth wnaeth apelio atat i ymgeisio ar gyfer project Grŵp Dramodwyr Newydd?

Y cyfle i gael fy ngwaith wedi’i lwyfannu oedd wir yn apelio wrth ymgeisio i’r cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd, gan wybod bod modd i fi gael cymorth ac adborth wrth wneud, a chael dysgu mwy gan ddramodwyr am sut mae drama yn cael ei chynhyrchu, o waith caib a rhaw y ‘sgrifennu i’w pharatoi gyda chyfarwyddwr ac actorion i’w chyflwyno o flaen llwyfan.

Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf am fod yn rhan o’r grŵp?

Yr hyn dwi wedi mwynhau fwyaf yw cael esgus i ‘sgrifennu. Dwi’n gweithio llawn amser, felly roedd y gweithdai misol yn sanctaidd, yn gyfle i switsho bant o gyfrifoldebau’r byd go iawn a bwrw ati i ‘sgrifennu gyda chriw sy’n teimlo’r un peth. Heb os roedd cael cwmnïaeth y criw hefyd yn help mawr wrth weithio ar y ddrama – mae ‘na lot o drafod bywiog wedi bod ar hyd y daith!

Wyt ti’n gwneud llawer o waith ymchwil wrth fynd ati i ysgrifennu?

Dwi’n dueddol o ‘sgrifennu’n eitha greddfol, a cheisio ymddiried yn y ‘gut feeling’ yna, felly dwi’n troi at y ‘sgrifennu ac yna’n gwneud gwaith ymchwil i wirio pethau wrth ail-ddrafftio.

Pryd ddechreuaist ti sgwennu?

Mae ‘sgrifennu’n rhywbeth dwi wedi bod yn ei wneud erioed, felly mae meddwl am ddechreubwynt yn amhosib. Fodd bynnag, cefais gefnogaeth Huw Meirion Edwards a Mihangel Morgan pan ddilynais gwrs ysgrifennu creadigol ac anogaeth Branwen Davies pan ddilynais gwrs sgriptio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd dy waith yn cael ei ddarllen yn gyhoeddus yn ystod Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? – wyt ti’n edrych ymlaen at gael dy waith wedi’i ddarllen yn gyhoeddus ar lwyfan?

Dwi wir, wir yn edrych ymlaen – er bod meddwl am sut fydd pobl yn ymateb yn eithaf brawychus. 

Naomi Nicholas

Sq-Naomi_Nicholas

Wyau

Meithrin bywyd newydd yw bara menyn pob ffarmwr. Ond nid yw llenwi’u nyth mor rhwydd i Mari a’i gŵr Gwyn.

Beth wnaeth apelio atat i ymgeisio ar gyfer project Grŵp Dramodwyr Newydd?

Ffrind anfonodd y linc ata i, ac es i amdani – do’dd gen i ddim i’w golli. Wedd cael lle’n sioc! Ond roedd y cyfle’n un euraid, yr arweiniad a’r gweithdai, y cyfle i weld dramâu. Mae’r project wedi codi fy hyder, wedi fy ysbrydoli a’m sbarduno i sgwennu.

Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf am fod yn rhan o’r grŵp?

Y cyfle i drafod,  arbrofi ac i sgwennu. Mae ’na deimlad cartrefol, r’yn ni i gyd yn yr un cwch!

Wyt ti’n gwneud llawer o waith ymchwil wrth fynd ati i ysgrifennu?

Wel, dwi wedi ymchwilio dipyn wrth sgwennu ‘Wyau.’ Oherwydd natur y pwnc roedd hi’n allweddol fy mod i’n ymchwilio er mwyn gwneud cyfiawnhad â hanes Mari a Gwyn. Fues i’n lwcus iawn o gael cymorth a gonestrwydd fy ffrind a’m cydweithwraig Sharlaine ar hyd y daith (diolch enfawr iddi). Gwyliais ambell raglen ddogfen ar Netflix yn ogystal â darllen sawl erthygl. Roedd Cennydd, fy sboner hefyd yn lot o help o ran cyfeiriadau at y calendr amaethyddol.

Pryd ddechreuaist ti sgwennu?

Dwi’n cofio sgwennu stori am lynger y ci ar gyfer Eisteddfod Maenclochog yn mlwyddyn 2. Wedi hynny yn Ysgol y Preseli cyn mynd ymlaen i astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd dy waith yn cael ei ddarllen yn gyhoeddus yn ystod Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? – wyt ti’n edrych ymlaen at gael dy waith wedi’i ddarllen yn gyhoeddus ar lwyfan?

Bydd clywed fy ngeiriau ar lwyfan am y tro cynta’n brofiad arbennig ond tan hynny – pili palas!

18 Mehefin 2019

Categorïau: Blog Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government