Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Sioeau
    • Theatr Gen Eto
    • Pryd Mae’r Haf? Ar-lein
    • Faust + Greta
    • Rhaglen 2021
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Connect Up
    • Ar y Dibyn
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Academi Leeway
    • Clwb Theatr Cymru
    • Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
    • Wythnos Prentisiaethau Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Bwrsari
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
      • Sgidie, Sgidie, Sgidie
      • Adar Papur
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
    • Drws Agored
  • Cymryd Rhan
    • Pawb Ar-lein
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Dewch i ddysgu mwy am Melangell Dolma a Cai Llewelyn Evans – dau aelod o’n Grŵp Dramodwyr Newydd.

Bydd darlleniadau cyhoeddus o Bore Oes gan Melangell Dolma, a Bwyd Ci gan Cai Llewelyn Evans y Theatr y Sherman ar 11 Mehefin (tocynnau) a Chanolfan Mileniwm Cymru ar 2 Gorffennaf (tocynnau).

Melangell Dolma

Sq-Melangell_Dolma

Bore Oes

Wrth i Anwen dreulio’i hugeiniau’n creu adar papur i’w gwerthu ar y we, mae’r pethau pwysicaf yn ei bywyd i gyd i weld yn llithro drwy ei bysedd.

Beth wnaeth apelio atat i ymgeisio ar gyfer project Grŵp Dramodwyr Newydd?

Roedd yr holl gynllun jyst yn swnio mor gyffrous, ac yn union be o’n i angen – llwyth o weithdai efo gwahanol ddramodwyr, tocynnau i’r theatr, dysgu, dysgu, dysgu, a wedyn cael ein gorfodi i sgwennu drama ar y diwedd! Dwi’n cael trafferth mawr i sgwennu unrhyw beth oni bai fod deadline i gyflwyno drafft i rywun.

Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf am fod yn rhan o’r grŵp?

Mae dod i adnabod y saith o ddramodwyr eraill wedi bod yn wych – cael trafod syniadau a chefnogi ein gilydd. A hefyd cael datblygu darn gwbwl newydd efo cefnogaeth a nodiadau gan Sarah Bickerton ac Arwel Gruffydd.

Fel rhan o’r cynllun, rwyt wedi bod yn mynychu digwyddiadau theatrig a pherfformiadau o ddramâu – pa un sydd wedi creu’r argraff fwyaf arnat?

I mi, roedd gwylio cynhyrchiad Theatr Gen o Nyrsys yn brofiad arbennig, ac wedi ei gyfoethogi gan y ffaith ein bod ni wedi cael gweithdy gan y dramodydd, Bethan Marlow ymlaen llaw yn ymdrin â theatr gair am air. Doeddwn i erioed wedi meddwl gweithio yn y ffordd yma o’r blaen ac roedd yn agoriad llygad.

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? Ydy’r hyn rwyt ti’n ei ddarllen yn dy ysbrydoli?

Dwi newydd fod yn darllen dramâu Penelope Skinner. Mae ei chymeriadau hi mor fyw, a wastad yn ymdrechu tuag at rywbeth penodol iawn.

Bydd dy waith yn cael ei ddarllen yn gyhoeddus yn ystod Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? – wyt ti’n edrych ymlaen at gael dy waith wedi’i ddarllen yn gyhoeddus ar lwyfan?

Yndw a nadw! Dwi’n edrych ymlaen lot at weithio efo’r actorion ac Eddie Ladd, sy’n cyfarwyddo, a chael clywed y darn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf. Ond mae’n debyg fydda i ar bigau’r drain cyn y darlleniad cyhoeddus.

Cai Llewelyn Evans

Sq-Cai_Llewelyn_Evans

Bwyd Ci

‘Bwyd ci’ yw bathiad Raymond Piper ar gyfer chwaraewyr rygbi sydd wedi gweld dyddiau gwell – ond sut mae goroesi yn y byd didrugaredd hwn?

Beth wnaeth apelio atat i ymgeisio ar gyfer project Grŵp Dramodwyr Newydd?

Y cyfle i gael darn o waith theatr wedi’i berfformio’n gyhoeddus gan actorion proffesiynol am y tro cyntaf.

Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf am fod yn rhan o’r grŵp?

O ran profiadau penodol, mae’n anodd curo’r cyfle i dreulio amser gyda’m cyd-ddramodwyr yn heddwch annaearol canolfan Tŷ Newydd. Yn ogystal, roedd yr adborth manwl a gefais ar fy ngwaith yn Llanystumdwy hefyd yn hynod werthfawr o ran deall sut y byddwn yn gallu gweithredu ar rai o’r pwyntiau damcaniaethol a ddaeth i’r amlwg yn ein gweithdai ynghylch creu cymeriadau credadwy a stori afaelgar a’u cymhwyso i fy nrama fy hun.

Fel rhan o’r cynllun, rwyt wedi bod yn mynychu digwyddiadau theatrig a pherfformiadau o ddramâu – pa un sydd wedi creu’r argraff fwyaf arnat?

Y perfformiad a welais o Fel Anifail yn theatr y Sherman. Rydw i wrth fy modd gyda dramâu Meic Povey, a’r ymdeimlad o fygythiad tawel sy’n treiddio drwyddynt.

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? Ydy’r hyn rwyt ti’n ei ddarllen yn dy ysbrydoli?

Rydw i newydd ddechrau darllen Testimony gan Scott Turow, fy hoff awdur. Yn bendant, mae darllen gwaith awdur sy’n gallu crynhoi gwirionedd rhyw agwedd elfennol ar fywyd mewn ffordd dydw i heb ei glywed o’r blaen, fel mae Scott Turow yn ei wneud ar bob tudalen, yn fy ysgogi i feddwl yn ddyfnach ac yn fwy creadigol am bethau bob dydd yr wyf yn eu cymryd yn ganiataol.

Bydd dy waith yn cael ei ddarllen yn gyhoeddus yn ystod Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? – wyt ti’n edrych ymlaen at gael dy waith wedi’i ddarllen yn gyhoeddus ar lwyfan?

Ydw, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed fy ngwaith yn cael ei ddarllen ar lwyfan gan actorion proffesiynol am y tro cyntaf. Ond, wrth gwrs, mae rhan ohono i ar bigau’r drain hefyd.

11 Mehefin 2019

Categorïau: Blog Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

Dilynwch ni!

Twitter
Instagram
Facebook
Youtube
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government