Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Dewch i ddysgu mwy am Gruffudd Eifion Owen a Lowri Morgan – dau aelod o’n Grŵp Dramodwyr Newydd.

Bydd darlleniadau cyhoeddus o Parti Priodas gan Gruffudd Eifion Owen, a Nhw gan Lowri Morgan yn Theatr y Sherman ar 12 Mehefin (tocynnau) a Chanolfan Mileniwm Cymru ar 3 Gorffennaf (tocynnau).

Gruffudd Eifion Owen

Sq-Gruffudd_Eifion_Owen

Parti Priodas

Emynau, tensiynau a dwyieithrwydd lletchwith: croeso i barti priodas Dafydd a Samantha!

Beth wnaeth apelio atat i ymgeisio ar gyfer project Grŵp Dramodwyr Newydd?

Roeddwn i’n arfer sgwennu tipyn mwy ar gyfer y llwyfan pan oeddwn yn iau, ond doeddwn i heb sgwennu unrhyw beth newydd ers blynyddoedd. Ond  pan welais i’r cynllun hwn yn cael ei hysbysebu penderfynais fynd amdani! Roedd y cynnig o arweiniad proffesiynol gan awduron profiadol yn ysgogiad anferth. Dwi mor falch mod i wedi  cael cynnig lle ar y cynllun.

Pryd ddechreuaist ti sgwennu?

Dwi ‘di bod yn sgwennu, barddoniaeth yn bennaf, ers pan oeddwn i’n fy arddegau. Mi fûm i’n  astudio modiwl ysgrifennu creadigol fel rhan o’m cwrs gradd yn Aberystwyth. Mi wnes i ennill medal ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2009 ac ar ôl blynyddoedd hapus iawn yn gweithio fel golygydd i’r opera sebon Pobol y Cwm, dwi bellach yn gweithio fel awdur a golygydd ar fy liwt fy hun.

Wyt ti’n gwneud llawer o waith ymchwil wrth fynd ati i ysgrifennu?

Wel, mae fy nrama i ar gyfer y cynllun Pwy ‘Sgrifennodd Honna? wedi ei lleoli mewn parti priodas, a dwi wedi bod i ddigonedd o’r rheini dros y blynyddoedd! Be’ sy’n ddifyr ydi fod y ddrama roeddwn i wedi bwriadu ei hysgrifennu wedi esblygu’n naturiol i fod yn rhywbeth eitha gwahanol i beth oedd hi’n wreiddiol. Mae elfenau o’r ddrama yn wahanol iawn i’m profiadau personol, ac eto, wrth ddarllen drosti dwi’n ffeindio ryw dameidiau o fi fy hun ym mhob man. Mae’n wir beth ddywedodd Alan Bennett: Tydi rhywun ddim yn rhoi nhw’u hunain yn eu gwaith, ond maen nhw yn canfod eu hunain yno!

Beth yw’r her fwyaf sydd wrth wraidd sgwennu drama lwyddiannus yn dy farn di?

Cadw cynulleidfa wedi ei diddanu! Ella bod hynny yn swnio fel amcan go fas, ond dwi’n grediniol be’ bynnag ydach chi’n ei ysgrifennu, boed honno’n gerdd neu’n ddrama neu’n stori fer, os ydach chi’n colli sylw’ch cynulleidfa, neu’n waeth byth, yn eu blincing diflasu nhw, ‘da chi ‘di  neud o’n rong! Mae hynny’n swnio’n syml, ond dwi’n gwbod o hir a chwerw brofiad fod cynnal diddordeb pobol yn anodd! (Dymunwch bob lwc i mi!)

Wyt ti’n bwriadu parhau i ysgrifennu dramâu ar ôl i’r cyfnod ddod i ben? Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf am ysgrifennu drama?

Yn bendant! Dwi’n teimlo fod y profiad hwn wedi rhoi’r arfau i mi fynd ati i ysgrifennu o ddifri ar gyfer y llwyfan, ac mi fydda i yn fythol ddiolchgar i Theatr Genedlaethol Cymru am y cyfle gwerthfawr hwn.

Lowri Morgan

Sq-Lowri_Morgan

Nhw

Gwrywdod a Benyweidd-dra. Pa mor bell ydan ni’n colli’n hunain yn yr eithafion yma? A pha mor eithafol yw’r effaith yma arnom ni?

Beth wnaeth apelio atat i ymgeisio ar gyfer project Grŵp Dramodwyr Newydd?

Mi wnaeth o apelio oherwydd roeddwn i eisiau y cyfle i feithrin fy ngwaith sgwennu ac roedd rhywbeth pendant i anelu tuag ato ar y diwedd. Mae cael y cyfle i ysgrifennu sioe a chael adborth cyson wedi bod yn werthfawr iawn.

Pryd ddechreuaist ti sgwennu?

Rydw i wedi hyfforddi fel actor, mi ydw i ar y funud yn gwneud MA Perfformio gyda Choleg Y Drinod Dewi Sant yn Caerdydd ac ar y BA mi ges i gyfle i ddechra ysgrifennu felly o dyna lle nath y “buzz” ddechra.

Wyt ti’n gwneud llawer o waith ymchwil wrth fynd ati i ysgrifennu?

Ydw mi ydwi’n gwneud llawer o waith ymchwilio pan dwi’n sgwennu, rwy’n meddwl bod o’n hollbwysig cael dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc dwi’n ei drafod er mwyn gallu ymdrin â’r pwnc yn sensitif ac yn gywir.

Beth yw’r her fwyaf sydd wrth wraidd sgwennu drama lwyddiannus yn dy farn di?

Y her fwyaf i sgwennu drama yw llwyddo i drafod pwnc gyda eich llais chi a gwneud yn siwr bod eich llais chi yn dod drwyddo. Mae ysgrifennu drama yn rhywbeth personol iawn a felly mae o’n anodd gallu trosglwyddo eich barn chi i’r gynulleidfa heb deimlo bo chi’n areithio atyn nhw.

Wyt ti’n bwriadu parhau i ysgrifennu dramâu ar ôl i’r cyfnod ddod i ben? Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf am ysgrifennu drama?

Mi ydw i yn gobeithio parhau i ysgrifennu ar ôl y cwrs, mae ymchwilio i mewn i ddrama fy hyn a cael y rhyddid i ysgrifennu am beth bynnag dwi isho a cael y cyfle i ddangos i bobl be dwi’n coelio ynddo. Dwi’n meddwl bod ysgrifennu yn bwerus iawn ac yn rhoi y cyfle i chi newid meddylia bobol. Mae’r cyfle yma wedi bod yn hynod werthfawr ac yn newid byd i mi.

12 Mehefin 2019

Categorïau: Blog Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government