Mae Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cynhyrchiad Dawns Ysbrydion yn mynd ar daith o amgylch Cymru ym mis Tachwedd 2015, a hynny yn dilyn agor y cynhyrchiad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ddiwedd y mis hwn (Awst 2015).
Bydd y cynhyrchiad yn rhedeg yng nghanolfan ZOO Southside, Caeredin o’r 24ain i’r 29ain o Awst. Yna, bydd y daith yng Nghymru yn cychwyn yn Galeri Caernarfon ar Dachwedd y 3ydd, cyn teithio i’r Stiwt, Rhosllannerchrugog; Tŷ Dawns, Caerdydd (fel rhan o Ŵyl Dawns Caerdydd); Y Llwyfan, Caerfyrddin; a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bydd hyn yn cynnig y cyfle i gynulleidfaoedd mewn gwahanol ardaloedd o Gymru i fwynhau’r cynhyrchiad dawns newydd hwn.
Mae’r cynhyrchiad yn gosod hanes boddi Cwm Tryweryn mewn cyd-destun rhyngwladol ac yn trafod diwylliannau dan fygythiad, 50 mlynedd ers boddi pentref Capel Celyn i greu cronfa ddŵr i gyflenwi dinas Lerpwl. Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r Ddawns Ysbrydion a oedd yn cael ei pherfformio gan rai o lwythi brodorol Gogledd America ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Eddie Ladd yn arwain cast o dair – sydd hefyd yn cynnwys Anna ap Robert ac Angharad Price Jones – mewn dawns ddi-ildio dros ryddid a pharhad. Bydd Y Pencadlys yn perfformio cerddoriaeth electro gwreiddiol yn fyw ar y llwyfan fel rhan o’r cynhyrchiad.
Sarah Williams, o Montreal, yw’r coreograffydd sydd yn cyd-gyfarwyddo gydag Eddie Ladd.
Meddai Eddie Ladd am y cynhyrchiad:
“Tyfodd mudiad y ‘ddawns ysbrydion’ yn gyflym ac yn ddisymwth ymhlith llwythi’r Cenhedloedd Cyntaf yng ngogledd America ar ddiwedd y 19eg ganrif. Dawns wedi ei chreu gan argyfwng yw hi, ac yn fy nhyb i, mae yna argyfwng tebyg yn ein hwynebu ni. Bwriad y dawnswyr oedd ennyn gweledigaeth o fywyd newydd, ac ymweld â’r “wlad newydd” hon am ychydig.
I raddau, roedd ymgyrch Tryweryn yntau’n ddawns ysbrydion, yn enwedig efallai gweithredoedd Emyr Llew, Owain Williams a John Albert Jones. Soniodd Emyr Llew fod yn rhaid i wlad gael breuddwydio ac erbyn diwedd y sioe, ry’ ni’n gobeithio y byddwn ni wedi medru datgan safiad dros freuddwydio, dychmygu, goroesi a gweithredu.”
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Roedd boddi Cwm Tryweryn yn drychineb i drigolion Capel Celyn. Ond roedd hefyd yn arwydd o sarhad, yn arwydd o’n diymadferthedd fel pobl, ac i rai, yn arwydd o’n taeogrwydd. Trais gwladwriaethol – yn erbyn cymuned, yn erbyn pobl, yn erbyn diwylliant, yn erbyn iaith. Ond tydi Tryweryn ddim yn enghraifft unigryw. Mae gwladwriaethau a diwylliannau mwyafrifol wedi bod yn treisio lleiafrifoedd sydd dan eu rheolaeth ym mhob cwr o’r byd.
Mae Eddie Ladd yn un o’r artistiaid theatr mwyaf dawnus ac unigryw, ac rydym yn falch iawn o gael cydweithio â hi am y tro cyntaf, a hynny ar brosiect mor uchelgeisiol a chyffrous ar sawl lefel; yn greadigol ond hefyd yn wleidyddol. Yn Dawns Ysbrydion, mae Eddie’n cyffelybu ein profiad ni gyda Thryweryn i brofiad diwylliant dan fygythiad mewn rhan arall o’r byd, gan ei osod felly mewn cyd-destun lawer ehangach. Mae cael mynd â’r stori hon – stori sy’n gymaint o graith ar ein hanes, ond sydd hefyd yn stori fyd-eang – ar daith trwy Gymru eleni, hanner can mlynedd ers boddi Cwm Tryweryn, yn ogystal ac i gynulleidfa ryngwladol yn un o wyliau diwylliannol mwya’r byd, yn foment hynod gyffrous i ni fel cwmni cenedlaethol.”
Dyddiadau –
ZOO Southside, (Venue 82), Caeredin
24 Awst 10:40
25 Awst 10:40
26 Awst 10:40
27 Awst 10:40
28 Awst 10:40
29 Awst 10:40
Tocynnau yma
Galeri Caernarfon
3 Tachwedd 19.30
4 Tachwedd 19.30
Tocynnau yma / 01286 685 222
Y Stiwt, Rhosllannerchrugog
6 Tachwedd 19.30
7 Tachwedd 19.30
Tocynnau ddim ar werth eto / 01978 844 053
Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru
10 Tachwedd 19.30
11 Tachwedd 19.30
12 Tachwedd 19.30
13 Tachwedd 19.30
Tocynnau ddim ar werth eto (trwy Ganolfan Mileniwm Cymru)
Y Llwyfan, Caerfyrddin
17 Tachwedd 19.30
18 Tachwedd 19.30
Tocynnau ddim ar werth eto (trwy Ganolfan Mileniwm Cymru)
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
19 Tachwedd 19.30
20 Tachwedd 19.30
Tocynnau yma / 01970 623 232
-diwedd-
Gwybodaeth bellach:
Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â Lowri Johnston, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru; 01267 245617 | lowri.johnston@theatr.com
Perfformwyr:
Angharad Price Jones
Eddie Ladd
Anna ap Robert
Y Pencadlys
Tîm Creadigol
Cyfarwyddwyr: Eddie Ladd a Sarah Williams
Coreograffydd: Sarah Williams
Cynllunydd: Simon Banham
Cynllunydd Goleuo: Lucie Bazzo
Dramatwrg: Roger Owen