Mae Theatr Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri Caernarfon, yn falch o gyhoeddi cynhyrchiad newydd fydd yn cael ei lwyfannu yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, cyn teithio Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn.
Bydd Dawns Ysbrydion yn cael ei berfformio yn ystod wythnos olaf Awst yn Zoo Southside yng Nghaeredin cyn cychwyn taith o amgylch Cymru yn Galeri Caernarfon ym mis Tachwedd.
Mae’r cynhyrchiad dawns yma yn adrodd hanes diwylliannau o dan fygythiad, 50 mlynedd ers boddi Cwm Celyn i greu cronfa ddŵr Tryweryn i gyflenwi poblogaeth Lerpwl. Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r Ddawns Ysbrydion oedd yn cael ei berfformio gan rai o lwythi brodoriol Gogledd America, mae Eddie Ladd yn arwain cast o dair, sy’n cynnwys Anna ap Robert ac Angharad Price Jones. Bydd Y Pencadlys yn perfformio cerddoriaeth electro gwreiddiol yn fyw ar y llwyfan fel rhan o’r cynhyrchiad.
Sarah Williams, sydd yn hanu o Montreal, fydd y coreograffydd ac yn cyd-gyfarwyddo gyda Eddie Ladd.
Meddai Eddie Ladd ynglŷn â’r cynhyrchiad;
“Tyfodd mudiad y ddawns ysbrydion yn gyflym ac yn ddisymwth ymhlith llwythi’r Cenhedloedd Cyntaf yng ngogledd America ar ddiwedd y 19eg ganrif. Dawns wedi ei chreu gan argyfwng yw hi, ac yn fy nhyb i, mae yna argyfwng tebyg yn ein hwynebu ni. Bwriad y dawnswyr oedd ennyn gweledigaeth o fywyd newydd, ac ymweld â’r “wlad newydd” hon am ychydig.
I raddau, roedd ymgyrch Tryweryn yntau’n ddawns ysbrydion, yn enwedig efallai weithred Emyr Llew, Owain Williams a John Albert Jones. Soniodd Emyr Llew fod yn rhaid i wlad gael breuddwydio ac erbyn diwedd y sioe, ry’ ni’n gobeithio y byddwn ni wedi medru datgan safiad dros freuddwydio, dychmygu, goroesi a gweithredu.”
Bydd Dawns Ysbrydion yn cael ei lwyfannu o’r 24ain – 29ain o Awst yn Zoo Southside, Caeredin am 10:40yb. Bydd taith Cymru yn agor ar yr 8fed o Dachwedd yn Galeri Caernarfon ac fe fydd gweddill y daith yn cael ei gyhoeddi yn mis Mai.
-diwedd-
Gwybodaeth bellach:
Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â Lowri Johnston, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru; 01267 245617 | lowri.johnston@theatr.com
Perfformwyr:
Angharad Price Jones
Eddie Ladd
Anna ap Robert
Y Pencadlys
Cyd-gyfarwyddwr: Eddie Ladd
Coreograffydd a Chyd-gyfarwyddwr: Sarah Williams
Cynllunydd: Simon Banham
Cynllunydd Goleuo: Lucie Bazzo
Trefnydd testun a Dramatwrg: Roger Owen