Cyfle Newydd i Ddramodwyr Ifanc Cymru
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac S4C yn galw am ddramodwyr ifanc i fod yn rhan o gynllun ysgrifennu cenedlaethol newydd sbon. Dyma’r tro cyntaf i’r tri chwmni cenedlaethol ddod â’u gwahanol arbenigeddau at ei gilydd i weithio gyda phobl ifanc, gyda’r bwriad o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddramodwyr Cymraeg.
Bydd y Cynllun Dramodwyr Ifanc yn cynnig cyfleoedd hyfforddi, mentora a datblygu proffesiynol i egin-ddramodwyr o 17 i 25 oed. Mae’r cynllun yn cynnwys sesiynau holi-ac-ateb agored gyda dramodwyr ac awduron sgriptiau profiadol, a chyfleoedd i drafod ymhellach mewn sgyrsiau un-wrth-un. Bydd y dramodwyr ifanc hefyd yn cael eu hannog a’u cefnogi i gystadlu yng nghystadlaethau cyfansoddi gweithiau dramatig Eisteddfodau’r dyfodol, a bydd cyfle i 3 o’r cystadleuwyr sy’n dod i’r brig ddatblygu eu dramâu ymhellach gyda Theatr Genedlaethol Cymru er mwyn eu rhannu.
Y bwriad yn y pen draw yw cynnig cyfle unigryw i un dramodydd buddugol dreulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni gynnig cyfle o’r fath i ddramodydd ifanc. Yn ogystal â mentora gan dîm Theatr Gen, bydd cyfle i’r Dramodydd Preswyl Ifanc gael ei fentora gan Gomisiynydd Drama S4C a gweithio gyda rhai o’u hawduron sgriptiau diweddaraf. Bydd yr unigolyn yma hefyd yn derbyn comisiwn datblygu i ddechrau gweithio ar ddrama newydd ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru.
Meddai Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae meithrin y genhedlaeth nesaf o ddramodwyr ac artistiaid Cymraeg wrth galon gwaith Theatr Gen. Felly ry’n ni’n falch i ddatblygu ymhellach ein partneriaethau gyda’r Urdd ac S4C a chydweithio, fel sefydliadau cenedlaethol Cymraeg, i sefydlu cynlluniau hirdymor sy’n rhoi cyfleoedd cyson i bobl ifanc ddatblygu sgiliau creadigol ym myd y ddrama a helpu sicrhau dyfodol disglair i ddiwylliant Cymraeg.”
Meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr Dros Dro Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau:
“Mae hwn yn gyfle cwbl wych i’n haelodau. Fel mudiad, rydym yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd newydd lle gall ein haelodau fagu profiad a hyder yn y meysydd mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Mae’r cyfleoedd am brofiad gwaith o fewn y celfyddydau yn brin, ac felly rydym yn hynod falch o allu cydweithio gyda’n partneriaid i sicrhau’r cyfle unigryw yma.”
Meddai Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C:
“Mae’r cynllun yma’n cefnogi amcan S4C i ddenu talent a lleisiau newydd o bob cefndir i’r sector. Rydym yn falch iawn o gydweithio efo Theatr Genedlaethol Cymru a’r Urdd i sbarduno criw o awduron fydd yn creu cynnwys cyffrous yn Gymraeg, ac yn adlewyrchu Cymru ar y sgrin a’r llwyfan.”
Bydd y sesiynau agored cyntaf yn digwydd ym mis Chwefror 2021, a bydd rhagor o fanylion am y cynllun newydd hwn – gan gynnwys enwau’r dramodwyr a’r awduron sy’n cymryd rhan – yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a sut i gofrestru, ewch i’r dudalen prosiect fan hyn.