Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Cymryd Rhan

Addysg. Gweithdai. Profiad Gwaith.

Wythnos Prentisiaethau Cymru

Rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru ym mis Chwefror 2020, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Roedd y dathliadau wythnos o hyd yn arddangos y cyfleoedd gwych y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl ifanc a chyflogwyr yng Nghymru. Fel cwmni cenedlaethol, mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i Theatr Genedlaethol Cymru ddangos y buddion niferus o ddilyn prentisiaeth yn y celfyddydau a’r amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael yn y theatr.

Darllenwch ymhellach am y gwaith yma.

Isod ceir fideo yn amlinellu’r prosiect ymhellach.

Sgwennu ar y Dibyn

“Ma gynnon ni gyd stori. Ma rhai yn fwy poenus na’i gilydd. Ma’u rhyddhau nhw yn greadigol yn gneud lles. Dwi’n gwbod hynny o brofiad.” – Iola Ynyr

Cyfle i sgwennu yn greadigol ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef gyda dibyniaeth. Cyfres o 6 gweithdy wythnosol yn arwain at ddangosiad o’r gwaith gan actorion proffesiynol. Prosiect rhwng Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Galeri Caernarfon. Dyma fideo a grëwyd am y prosiect:

Artistiaid Preswyl yn Ninefwr

Ym mis Mawrth 2019, roedd Llinos Jones (ein Swyddog Cyfranogi) yn rhan o brosiect creadigol ym Mharc Dinefwr gyda Cadw a Llenyddiaeth Cymru. Yn ystod tridiau o weithgareddau, roedd cyfle i bobl ifanc o Ysgol Uwchradd Coedcae yn Llanelli ddysgu mwy am hanes Dinefwr ac ymgymryd â gweithdai creadigol i ysgrifennu cerddi a chreu perfformiad. Dyma fideo a grëwyd gan Cadw am y prosiect:

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn creu pecynnau i gyd-fynd â chynyrchiadau amrywiol. Rydym yn cynnig y canlynol:

Pecyn adnoddau i gyd-fynd â’r cynhyrchiad (sefydliadau addysg a dysgwyr Cymraeg)
Pris arbennig ar docynnau ar gyfer grwpiau

Gweithdai gydag arbenigwyr yn y diwydiant theatr

Sgwrs cyn-sioe gyda’r Cyfarwyddwr

Profiad gwaith ar gynhyrchiad

Pecyn Addysg Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd

Datblygwyd y pecyn hwn gan ymarferwr profiadol ym maes addysg, sydd hefyd yn arholwr i CBAC.
Mae’r pecyn wedi ei deilwra ar gyfer y cwrs Drama TGAU / Lefel A ac yn addas hefyd ar gyfer adolygu drama cwrs Cymraeg TGAU.
Fe ellid ei ddefnyddio fel un enghraifft o Theatr Fyw ar gyfer y cwestiwn adolygu yn Adran B o bapur Drama TGAU.
Mae’n cynnwys cyfweliadau gyda’r tîm yn ogystal â gweithgareddau i gyfoethogi taith i’r theatr, a thasgau i’w cwblhau yn dilyn yr ymweliad.
Mae’r gweithgareddau yn dilyn patrwm rhai o’r cwestiynau allai ymddangos ar bapurau arholiad ysgrifenedig Drama TGAU neu Lefel A.

Bydd Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd ar daith ledled Cymru rhwng 13 Mawrth ac 13 Ebrill 2019. Mae manylion y daith yma.

lawrlwytho pecyn addysg
Delwedd Sgwar Image
http://theatr.cymru/wp-content/uploads/2018/10/Thema.mp4

Dwy ddrama gyfoes gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar, a’r naill ddrama a’r llall yn rhannu themâu tebyg.

Adnoddau i Ddysgwyr: Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd

Yn ystod y perfformiadau, bydd modd defnyddio Sibrwd, sef ap Theatr Genedlaethol Cymru sy’n cynnig crynodeb Saesneg ar gyfer dysgwyr a’r di-Gymraeg.

Sgyrsiau cyn y sioe i ddysgwyr

Rydym yn falch y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn arwain sgyrsiau cyn y sioe i ddysgwyr safon uwch yn y canolfannau canlynol:

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13 Mawrth 18:30 – Ystafell Haydn Rees

Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys: 22 Mawrth 18:45 – Ystafell ddosbarth ar y campws

Theatr Borough, Y Fenni: 25 Mawrth 18:45 – Parlwr y Maer

Canolfan Celfyddydau Pontardawe: 26 Mawrth 18:45 – Stiwdio

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: 29 Mawrth 18:45 – Ystafell 2d

Y Ffwrnes, Llanelli: 9 Ebrill 18:45 – Yn ardal y bar

Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd: 11 Ebrill, 18:15 – Ystafell Seligman

Delwedd Sgwar Image
Adnodd i Ddysgwyr

Pecyn Addysg Nyrsys

Datblygwyd y pecyn hwn gan ymarferwr profiadol ym maes addysg, sydd hefyd yn arholwr i CBAC. Mae’r pecyn wedi ei deilwra ar gyfer y cwrs Drama TGAU / Lefel A ac yn addas hefyd ar gyfer adolygu drama cwrs Cymraeg TGAU. Fe ellid ei ddefnyddio fel un enghraifft o Theatr Fyw ar gyfer y cwestiwn adolygu yn Adran B o Bapur Drama TGAU.

Byddai arbrofi gyda’r math hwn o theatr hefyd o fudd i ddisgyblion TGAU a Lefel A wrth iddyn nhw fynd ati i ddyfeisio eu golygfeydd eu hunain yn seiliedig ar unrhyw ymarferwr/genre.

Mae’r pecyn yn rhoi cyd-destun cyfoethog i Nyrsys, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol am hanes y ddrama gair-am-air yng Nghymru. Mae’n cynnwys gyfweliadau gyda’r tîm yn ogystal â gweithgareddau i gyfoethogi taith i’r theatr, a thasgau i’w cwblhau yn dilyn yr ymweliad.

Bydd Nyrsys ar daith ledled Cymru rhwng 6 Tachwedd ac 8 Rhagfyr 2018. Mae manylion y daith yma.

lawrlwytho pecyn addysg
NYRSYS_Neon-bach

Darlleniad Cyhoeddus Cyntaf, Ebrill 2018

Adnodd i Ddysgwyr: Nyrsys

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi creu gwers gyfoes yn seiliedig ar y cynhyrchiad Nyrsys. Mae’r wers yn rhoi cyfle i ddysgwyr profiadol sydd wedi cyrraedd lefel Uwch gael blas ar y cynhyrchiad. Mae’n cynnwys cyfleoedd i drafod themâu iechyd a’r gwasanaeth iechyd, darn o’r sgript, ymarferion geirfa perthnasol, clipiau fideo o’r caneuon, a nodiadau ar gyfer tiwtoriaid.

Bob blwyddyn mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn creu cyfres o wersi cyfoes i’w cyflwyno i’w dysgwyr. Mae rhagor o wybodaeth am y Ganolfan ar gael yma.

Yn ystod y perfformiadau, bydd modd defnyddio Sibrwd, sef ap Theatr Genedlaethol Cymru sy’n cynnig crynodeb Saesneg ar gyfer dysgwyr a’r di-Gymraeg.

Adnodd i Ddysgwyr
NYRSYS_Neon-bach

Clybiau Drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr yn ail-ddechrau

clwb drama

Rydym yn hynod falch bod clybiau drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr wedi ail-ddechrau. Cynhelir y ddau glwb yn Y Llwyfan am 6pm bob nos Fercher. Clwb Drama (blwyddyn 3-6) a Chlwb Drama Uwchradd (blwyddyn 7-9). Croeso i aelodau newydd. Dewch yn llu!

Clwb Drama Uwchradd

Cwrs Preswyl Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Yn ystod mis Awst 2018, bu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru i ddarparu preswyliad dros 7 diwrnod i bobl ifanc. Roedd hwn yn gyfle arbennig i berfformwyr ifanc – i ddatblygu sgiliau, i ddysgu mwy am y maes ac i gael blas ar lwybrau gyrfa o fewn y sector.

Rhaglen y Cwrs Preswyl
NYTW2018

Pecyn Addysg Estron

clawr pec addysg

Datblygwyd y pecyn hwn gan ymarferwyr profiadol ym maes addysg, sydd hefyd yn arholwyr i CBAC. Mae wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer y cwrs Drama TGAU / Lefel A. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer y cwestiwn adolygu darn o theatr fyw yn yr arholiad TGAU, ac ar gyfer Lefel A gellir ei ddefnyddio ar gyfer y cwestiwn sy’n gofyn am ddylanwad theatr fyw ar eu dewisiadau artistig mewn perthynas â’u testunau gosod. Bydd Estron ar daith ledled Cymru rhwng 19 Ebrill a 19 2018. Mae manylion y daith yma.

lawrlwytho pecyn addysg

Sgyrsiau Estron

Isod ceir rhestr o sgyrsiau cyn ac ôl sioe taith Estron.

Theatr y Glowyr, Rhydaman:

  • Sgwrs wedi’r sioe 19 Ebrill

Pontio, Bangor:

  • Sgwrs i ddysgwyr cyn y sioe, 8 Mai

Canolfan Morlan, Aberystwyth:

  • Sgwrs wedi’r sioe, 9 Mai

Chapter, Caerdydd:

  • Sgwrs i ddysgwyr cyn sioe, 14 Mai
  • Sgwrs wedi’r sioe, 15 Mai

Galeri, Caernarfon:

  • Sgwrs wedi’r sioe, 19 Mai
Dyddiadau llawn y daith

Sgript Estron

Estron Script Cover A4

Mae croeso i chi ddarllen, astudio neu berfformio rhannau o sgript Estron gan yr awdur Hefin Robinson. Mae’r sgript yn gyfoethog o fonologau a chyflwyniadau mewn deuawd sy’n addas ar gyfer eu perfformio gan ddisgyblion ysgol neu fyfyrwyr.

Os ydych yn bwriadu defnyddio’r sgript yn y dosbarth neu at ddiben perfformiad yna gofynwn yn garedig eich bod yn hysbysu thgc@theatr.com ac y byddwn ninnau yn ein tro yn hysbysu’r awdur.

Lawrlwytho sgript Estron

Pecyn i ddysgwyr: Estron

Uned i Ddysgwyr – Lefel Uwch

Pecyn wedi ei deilwra’n arbennig i ddysgwyr, gyda cyflwyniad i’r ddrama, geirfa newydd, a syniadau ar gyfer trafod y cynhyrchiad.

Uned i ddysgwyr

Pecyn i diwtoriaid: Estron

Uned i Ddysgwyr – Lefel Uwch: Nodiadau i’r Tiwtor

Nodiadau i’r tiwtor i gyd-fynd â’r uned i ddysgwyr. Bwriad y deunydd yma yw rhoi cyflwyniad i’r ddrama i ddysgwyr sydd ar lefel Uwch a’u hannog i fynd i’w gweld yn y theatr! Mae’n bosib cyflwyno’r elfennau yn yr uned hon dros fwy nag un sesiwn.

Nodiadau i diwtoriaid

Pecyn Addysg Y Tad

Datblygwyd y pecyn hwn gan ymarferwyr profiadol ym maes addysg, sydd hefyd yn arholwyr i CBAC. Mae wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer y cwrs Drama TGAU / Lefel A. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer y cwestiwn adolygu darn o theatr fyw yn yr arholiad TGAU, ac ar gyfer Lefel A gellir ei ddefnyddio ar gyfer y cwestiwn sy’n gofyn am ddylanwad theatr fyw ar eu dewisiadau artistig mewn perthynas â’u testunau gosod. Bydd Y Tad ar daith ledled Cymru rhwng 21 Chwefror a 16 Mawrth 2018. Mae manylion y daith yma.

lawrlwytho pecyn addysg

Am y tro cyntaf erioed mae gwers gyfoes gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn seiliedig ar gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru. Mae eu gwers gyfoes ddiweddaraf yn rhoi cyfle i ddysgwyr y Gymraeg gael blas ar gynhyrchiad Y Tad.

Gwybodaeth am dementia
Nodiadau ar gyfer tiwtoriaid
Cefndir a geirfa Y Tad

Sgyrsiau Y Tad

Isod ceir rhestr o sgyrsiau cyn ac ôl sioe taith Y Tad.

Pontio, Bangor:

  • Sgwrs cyn y sioe i ddysgwyr 21 Chwefror, yn cychwyn am 6.30pm. Bydd y sgwrs yn gymraeg.
    Mae’r tocynnau am ddim i’r digwyddiad yma ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Cadeirydd: Eirian Conlon.
  • Sgwrs wedi’r sioe 22 Chwefror

Canolfan Celfyddydau Pontardawe:

  • Sgwrs wedi’r sioe 27 Chwefror

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron:

  • Sgwrs wedi’r sioe 7.30yh, 2 Mawrth

Theatr y Sherman, Caerdydd:

  • Sgwrs wedi’r sioe 8 Mawrth

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug:

  • Sgwrs wedi’r sioe 13 Mawrth

Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd:

  • Sgwrs cyn y sioe 16 Mawrth i ddysgwyr, yn cychwyn am 12.15yp. Cadeirydd: Helen Prosser.
Dyddiadau llawn y daith
Y Tad cropped

Adnoddau Hollti

Pecyn i ddysgwyr
Datblygwyd y pecyn hwn gan Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn gyda chefnogaeth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru.

Pecyn i ddysgwyr

Sgript Hollti gan Manon Wyn Williams

Mae cyfle’n awr i ddarllen ac astudio sgript Hollti – sgript wreiddiol a chyfoes gan yr awdur ifanc Manon Wyn Williams. Mae’r sgript ar gael i’w darllen yn hamddenol neu i’w hastudio mewn ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch.

 

Cyn cael caniatâd i ddefnyddio’r sgript, bydd angen rhoi gwybod i ni drwy gysylltu â thgc@theatr.com

Sgript Hollti gan Manon Wyn Williams
Theatr Gen Hollti Gwefan

Adnoddau Y Tŵr

Cyfres o ffilmiau byrion i ddysgu am y broses o greu opera

Michael McCarthy, cyfarwyddwr Y Tŵr yn trafod dyddiau olaf ymarfer yr opera, cyn y premier byd yn Theatr y Sherman, 19 Mai 2017

Michael McCarthy Cyfarwyddwr

Y llenor, bardd a cherddor, Gwyneth Glyn yn trafod ysgrifennu libreto Y Tŵr, sef gosod geiriau drama Gwenlyn Parry i gerddoriaeth.

Gwyneth Glyn Libretydd

Dyma’r arweinydd, Richard Baker, yn trafod rôl yr arweinydd, a gweithio ar opera yn y Gymraeg

Arweinydd Richard Baker

Dyma’r cantorion Caryl Hughes (Benyw) a Gwion Thomas (Gwryw) yn trafod Y Tŵr

Y cantorion Caryl Hughes a Gwion Thomas

Dyma’r dylunydd, Samal Blak, yn trafod cysyniadau dylunio Y Tŵr

Samal Blak y Dylunydd

Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Y Tŵr a Chyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales ac Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru’n trafod cydweithio ar Y Tŵr, opera newydd yn seiliedig ar ddrama Gwenlyn Parry.

Sgwrs Michael McCarthy a Arwel Gruffydd

Dyma gip olwg o’r ystafell ymarfer a’r cyfansoddwr Guto Puw yn siarad am gyfansoddi opera Y Tŵr.

Guto Puw y Cyfansoddwr

Roger Owen darlithydd Theatr a Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trafod Y Tŵr, y berthynas rhwng gwaith a bywyd Gwenlyn Parry, y cymeriadu, a’r themau’r ddrama.

Bydd y ffilm fer yma o gymorth i ddisgyblion sydd yn astudio TGAU a Lefel A Cymraeg a Drama.

Cyfweliad Roger Owen

Cyfweliad yng nghwmni Aled pedrick cyfarwyddwr Y Tŵr i gwmni theatr Invertigo yn 2015.

Cyfweliad Aled Pedrick

Trafodaeth cyn y sioe gyda’r libretydd Gwyneth Glyn a’r cyfansoddwr Guto Puw, yn ogystal â’r actorion a ddaeth â’r ddrama wreiddiol gan Gwenlyn Parry yn fyw, John Ogwen a Maureen Rhys. Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, sy’n cadeirio.

Sgwrs cyn sioe Y Tŵr
YTwr

Adnoddau Macbeth 2017

Fel rhan o Theatr Gen Byw – ein menter beilot newydd, gyffrous – darlledwyd perfformiad 14 Chwefror 2017 o Macbeth yn fyw i ganolfannau ar draws Cymru, yn cynnwys Chapter (Caerdydd), Pontio (Bangor), Galeri Caernarfon, Theatr Colwyn, Theatr y Torch (Aberdaugleddau), Glan yr Afon (Casnewydd), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Neuadd Les Ystradgynlais, Neuadd Dwyfor (Pwllheli), Canolfan Celfyddydau Taliesin (Abertawe) a Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug).

Yn sgil y fenter hon, mae cyfle’n awr i sefydliadau addysg – yn benodol ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch – wylio a defnyddio ffilm Macbeth at ddibenion addysgiadol hyd ddiwedd 2017. Mae dau fersiwn o’r ffilm ar gael, sef fersiwn Cymraeg a fersiwn Cymraeg wedi’i isdeitlo.

Cyn gallu defnyddio’r ffilm, bydd angen arwyddo a dychwelyd ffurflen caniatâd yn datgan eich bod yn cydymffurfio â’r amodau a nodir.

FFURFLEN CANIATÂD AR GYFER RHYDDHAU DEUNYDD CYNHYRCHIAD MACBETH

Pecynnau i ddysgwyr: Macbeth

Datblygwyd y pecynnau yma gan Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn gyda chefnogaeth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r pecyn i diwtoriaid yn benodol ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg lefel Uwch a Hyfedredd.

Pecyn i diwtoriaid: Macbeth
Pecyn i ddysgwyr: Macbeth

Pecyn Addysg: Macbeth

Datblygwyd y pecyn addysg yma gan Shakespeare School Festival gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru.

Pecyn addysg: Macbeth

Mae Into Film Cymru yn elusen addysg ffilm sydd ar hyn o bryd yn cydweithio â 1,000 o ysgolion yng Nghymru drwy ddarparu adnoddau, hyfforddiant athrawon, cefnogaeth i redeg clybiau ffilm, a rhyngweithio oddi mewn i’r diwydiant. I gyd-fynd â’r darllediad byw a’r ail-ddarllediadau o Macbeth, ac er mwyn hyrwyddo Wythnos Shakespeare 20–27 Mawrth, mae Into Film Cymru yn cynnig adnodd dysgu dwyieithog newydd er mwyn cynorthwyo pobl ifanc i ymgysylltu’n fwy â’r ddrama glasurol Macbeth. Gellir defnyddio’r pecyn i gymharu fersiwn ffilm â fersiwn llwyfan, gyda’r bwriad o ddyfnhau dealltwriaeth disgyblion o’r ddau gyfrwng.

Into Film
Departures_ThGC_Macbeth_Castle_1200x800

Gweithdai

Gweithdai

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn trefnu rhaglen o weithdai gyda grwpiau amrywiol. Gallwn eu teilwra ar gyfer eich anghenion chi, ac mae modd cynnal gweithdai ym meysydd Cyfarwyddo, Actio, Ysgrifennu a Marchnata.  Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu gweithdai gyda ni, cysylltwch â fflur.thomas@theatr.com

Clwb Drama

  • Diolch am gynnal sesiynau yma yn y Gymraeg, does dim dewis arall ar gael yn y dref.

  • Plant yn rili joio’r Clwb Drama ac yn edrych ‘mlan i’r tymor nesa. Mae mor neis cael Clwb Drama Cymraeg sydd mewn lleoliad mor hawdd i rhieni parcio, ac yn cyfle ffab i’r plant.

  • Mae hi yn mwynhau’r dosbarthiadau yn fawr iawn. Mae e wedi helpu hi yn fawr gyda sgiliau cymdeithasol/personol.

Clwb Drama (4)

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr  yn teithio i ysgolion cynradd y cylch ac yn cyflwyno gweithdai theatr dan arweiniad Siân Elin Williams, un o arweinwyr y Clwb.  Edrychwn ymlaen at gyfarfod disgyblion y sir a dod â byd y theatr i’r ystafell ddosbarth. Mae croeso i ysgolion y cylch gysylltu â Gwawr Williams, Swyddog Datblygu’r fenter, os ydynt yn dymuno trefnu gweithdy.

Mae’r Clwb Drama yn cyfarfod bob nos Fercher rhwng 6 a 7 yh yn Y Llwyfan, Caerfyrddin – cartref Theatr Genedlaethol Cymru.  Y bwriad yw magu hyder plant drwy ddysgu sgiliau perfformio newydd iddynt a meithrin diddordeb ym myd y theatr. Bydd y Clwb yn rhedeg am ei ail flwyddyn yn 2018/19, ac yn agor ei ddrysau i fynychwyr newydd.

 

Insert Alt Text
Insert Alt Text
Insert Alt Text
Insert Alt Text

Profiad Gwaith

Profiad Gwaith

Rydym yn cynnig rhaglen o brofiad gwaith wedi’i anelu at ddisgyblion blwyddyn 10, chweched dosbarth, myfyrwyr mewn prifysgolion, ac unigolion 16  oed a throsodd.  Gallwn gynnig cyfnod o brofiad gwaith mewn meysydd penodol o fewn y cwmni, yn dibynnu ar eich diddordeb.

Os oes gennych ddiddordeb ym maes y theatr, yna beth am gysylltu i weld beth allwn ni ei gynnig i chi? Mae’r cyfnodau profiad gwaith fel arfer yn para rhwng 5 a 10 diwrnod, ond sylwer na chynigir unrhyw dâl.

I wneud cais am brofiad gwaith, cysylltwch â ni am ffurflen gais o leiaf 4 wythnos cyn y dyddiad yr hoffech gychwyn: thgc@theatr.com

Blog gan Sarah Burge

Sarah Burge yn artist lleol i Gaerffili ac wedi bod ar brofiad gwaith gyda’r tîm gwisgoedd ar gynhyrchiad Macbeth. Mae wedi bod yn cadw dyddiadur o’i phrofiad yn gweithio ar y cynhyrchiad ar ei blog. Darllenwch ei phrofiad yma.

 

SarahBurge

 

 

 

 

Blog gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Bro Myrddin

“Agor ein llygaid i fyd y theatr”

Blog gan Heledd James a Lowri Richardson (Ysgol Gyfun Bro Myrddin).

Rydym wedi cael wythnos llawn hwyl a phrofiadau newydd yn ystod yr wythnos gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Roeddwn yn lwcus bod gan y Theatr drama ‘Nansi’ yn cymryd lle trwy gydol yr wythnos. Cawsom y cyfle i fod yn rhan o’r criw wrth weithio blaen tŷ yn gwerthu rhaglenni a stiwardio yn ystod y ddrama. Dysgom lawer o bethau newydd yn ystod y dyddiau eraill, un o’r diwrnodau gaethom y cyfle i sortio un o’r storfeydd. Yn ystod y broses yma fe wnaethom ddysgu sut i ddefnyddio golau yn ystod drama, hefyd wnaethom dysgu am y mathau o oleuadau gwahanol sydd i gael a’r gels unigryw.

Er mwyn paratoi ar gyfer y ddrama, aethom o amgylch Y Tymbl yn hysbysebu\\\\\\\’r ddrama trwy roi pamffledi trwy ddrysau rhai tai. Hefyd cawsom y cyfle i gwrdd â’r cast, y criw ac ymweld ar set. Yn ogystal â hyn, wnaethom ddosbarthu pamffledi o amgylch siopau yng Nghaerfyrddin. Tasg arall roedd yn rhaid i ni wneud oedd creu ‘Mood Board’ i ymwneud gyda’r Theatr Genedlaethol Cymru’. Bwriad y bwrdd yma oedd i’n helpu ni i greu ffilm fer ar gyfer y Theatr Genedlaethol Cymru.

Ar ddechrau’r wythnos cafon ni ein tywys o amgylch yr adeilad yn gweld yr ystafelloedd gwahanol a dysgu am swyddi gwahanol bobl. Roedd hwn yn rhoi blas i ni am ba fath o waith roedd y swyddi yma yn cynnwys.

Mae’r profiad yma wedi agor ein llygaid i fyd theatr ac i’r pethau sydd yn digwydd tu ôl i’r ymarferion hir. Rydym yn gobeithio gwnaeth staff Theatr Genedlaethol Cymru mwynhau ein cwmni yma gan rydym ni wedi joio mas draw!

Diolch am y profiad anhygoel.

Heledd a Lowri Bro myrddin #2 Gorffenaf

Blog gan Mirain Alaw Jones

“Synais o fawredd y cynhyrchiad…”

Blog gan Mirain Alaw Jones.

Dros y blynyddoedd dwi wedi gweld nifer o gynyrchiadau’r Theatr Genedlaethol, o sioeau cerdd i ddramâu absẃrd, o ddramâu gwreiddiol Cymraeg i rai sy’n gyfieithiadau o ieithoedd eraill. Mae’r cynyrchiadau dwi wedi’u gweld wedi bod yn amrywiol ac mae eistedd mewn theatr a chael fy ngwefreiddio gan yr hyn a welaf o’m blaen wedi cyfrannu at fy niddordeb mewn drama a’r theatr. O ganlyniad, rwyf erbyn hyn yn astudio’r ddrama fel rhan o’m cwrs ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn mwynhau dysgu am yr ochr sgriptio. Rwyf wedi cael profiad felly o weld cynhyrchiad gorffenedig ar lwyfan, ac astudio sut i ysgrifennu sgript, ond roedd rhywbeth ar goll yr oeddwn am ddysgu mwy amdano, sef sut mae dod â chynhyrchiad yn fyw ar lwyfan? Wrth dreulio wythnos gyda’r Theatr Genedlaethol ym Mangor yn eu gwylio’n llwyfannu cynhyrchiad Chwalfa yn adeilad newydd Pontio, dysgais lawer am y gwaith diwyd sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni i greu cynhyrchiad gorffenedig sy’n aros yn y cof.

Mi es i ar gyfnod o brofiad gwaith ar wythnos y pymthegfed o Chwefror, sef yr wythnos roedd y perfformiadau o Chwalfa’n dechrau. Ro’n i’n ymwybodol cyn dechrau felly y byddai’r wythnos hon yn un prysur i’r cwmni, ac ro’n i’n awyddus i weld beth oedd yn digwydd yn y dyddiau olaf yn arwain at berfformiad cyntaf cynhyrchiad. Cefais arsylwi sawl maes o fewn y cwmni yn ystod fy wythnos, o edrych ar waith cyfarwyddo Arwel Gruffydd, gweld y rhediadau technegol a gwisgoedd, dysgu am yr App Sibrwd a sut y caiff ei weithredu, a gweld sut y mae’r tîm yn cyd-weithio effeithiol i greu cynhyrchiad gorffenedig. Heb os, roedd hi’n wythnos ddifyr a dysgais lawer mwy am y Theatr Genedlaethol a’i gwaith nag yr oeddwn wedi disgwyl.

Cefais gyfle i holi aelodau’r cwmni am y cynhyrchiad ac am yr hyn roeddent wedi bod yn gwneud yn ystod yr wythnosau cynt wrth baratoi at y perfformiadau. Synais o fawredd y cynhyrchiad. Doeddwn heb weld cynhyrchiad â chymaint o gast o’r blaen ac felly roedd hwn yn brofiad hollol unigryw cael gweld sut roedd y cynhyrchiad yn llwyddo i gynnwys cymaint o gast ar y llwyfan. Roedd dysgu am App Sibrwd yn brofiad gwerthfawr gan ei fod yn gysyniad newydd i’r theatr Gymraeg ac yn ddull effeithiol o alluogi cynulleidfaoedd di-gymraeg i fwynhau dramâu Cymraeg. Cefais weld sut y caiff ei weithredu a sut roedd y criw wedi mynd ati i gynhyrchu’r ddarpariaeth hon ar gyfer cynulleidfaoedd di-gymraeg.

Roedd cael wythnos o brofiad gwaith gyda Theatr Genedlaethol Cymru’n brofiad na wnaf ei anghofio. Mewn cwta wythnos cefais flas ar sut mae gweithio ym myd theatr cyfrwng Cymraeg. Roedd yna awyrgylch braf yno gyda phawb yn gweithio’n galed i lwyfannu cynhyrchiad a fwynheais yn fawr. Roedd ôl wythnosau o waith caled ar y cynhyrchiad ac mae’r cwmni a’r ddrama’n haeddu’r holl glod maent wedi’u derbyn. Roedd y cyfle i arsylwi ar sawl maes o fewn y cwmni’n rhoi blas i mi o gymaint o agweddau sydd angen eu hystyried wrth roi cynhyrchiad at ei gilydd, ac roedd gweld y cydlynu a’r cyd-weithio’n dangos imi mor brofiadol yw’r cwmni. Mae’r wythnos wedi bod yn agoriad llygad gwerthfawr a dwi wedi dysgu llawer am sut mae dod â chynhyrchiad yn fyw ar lwyfan, a hoffwn ddiolch iddynt am y profiad. Roedd bod yn bresennol ynghanol bwrlwm yr wythnos wedi dangos imi y byddai gyrfa ym maes y theatr Gymraeg yn yrfa y buaswn bendant yn mwynhau, ac yn un i’w ystyried ar gyfer y dyfodol.

Mirain-Jones

 

 

Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government