Mewn cydweithrediad ag Urdd Gobaith Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llenyddiaeth Cymru; Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw, rydym yn chwilio am 12 o awduron ifanc, rhwng 16 – 25 oed, i ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramau byrion i blant ar gyfer eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018.
Bwriad Gŵyl Hanes Cymru i Blant, ym mis Medi 2018, fydd llwyfannu 12 o ddramâu fydd yn cyflwyno hanes y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru. Yn ystod yr ŵyl bydd y sioeau, a fydd yn cynrychioli diwydiannau megis copr, llechi, glo, tun, haearn a gwlân, yn cael eu llwyfannu mewn lleoliadau treftadaeth dros Gymru gyfan a hynny mewn cydweithrediad â chyrff megis Cadw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Y nod fydd addysgu plant a phobl ifanc am gyfnod pwysig iawn yn hanes Cymru a hynny trwy gyfrwng cyfres o ddramâu un person difyr a rhyngweithiol.
Bydd y 12 ymgeisydd llwydiannus yn derbyn hyfforddiant bwrpasol dan nawdd Theatr Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.
Y Dramâu byrion
- Copr
- Llechi
- Diwydiant Haearn
- Tun
- Glo/David Davies, Llandinam
- Dŵr/Pŵer
- Entrepreneuriaeth
- Diwydiant Morwrol
- Dic Penderyn
- Y Porthmyn
- Gwlân
- Diwydiant y dyfodol
Disgwylir i’r dramau byrion hyn gael eu cyflwyno erbyn diwedd 2017. Yn ystod hanner cyntaf 2018, bydd pob un o’r dramâu, yn ddibynnol ar dderbyn grantiau a nawdd pwrpasol, yn cael eu datblygu gan gyfarwyddwyr ac actorion proffesiynol, gyda’r gobaith y byddwn yn gallu llwyfannu pob un yn ystod Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018.
Meddai Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Gŵyl Hanes Cymru i Blant:
“Dyma gychwyn ar brosiect cyffrous iawn, fydd nid yn unig yn darganfod ac yn datblygu awduron ifanc sydd â’u bryd ar ysgrifennu dramâu, ond fydd hefyd, yn y pendraw, yn addysgu rhai miloedd o blant am gyfnod eithriadol o bwysig yn hanes Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r partneriaid am gofleidio’r syniad – bydd eu profiad â’u harbeigedd yn amhrisiadwy i’r 12 ymgeisydd llwyddiannus.”
Am fanylion pellach ewch i’r wefan www.gwylhanes.cymru
Neu cysylltwch ag Eleri Twynog eleritwynog@btinternet.com