Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gefnogi cyfle i alluogi gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau perfformio i hybu hyder i’w galluogi i weithio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Ry’n ni’n awyddus i gefnogi artistiaid a gweithwyr theatr llawrydd i hybu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, er mwyn eu galluogi i ymwneud â’r theatr Gymraeg. Drwy gydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn – gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru – ry’n ni’n gallu cynnig cefnogaeth i weithwyr llawrydd yn y celfyddydau perfformio.
Bydd lle i hyd at 12 o weithwyr llawrydd y sector ar gwrs ar-lein ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, sy’n cael ei ddarparu’n rhithiol gan Nant Gwrtheyrn rhwng Ionawr a Mawrth 2021. Y gobaith yw cynnal cwrs penodol ar gyfer gweithwyr llawrydd y sector celfyddydau perfformio.
Mae’r cyfle hwn ar gael i unrhyw un sydd yn – neu sy’n dymuno – gweithio’n llawrydd ym myd y theatr yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n awyddus i hybu ei hyder wrth ddefnyddio’r iaith yn broffesiynol.
Mae’r cwrs yn cael ei ariannu’n llawn a bydd disgwyl i chi fynychu 6 diwrnod o hyfforddiant ar-lein rhwng 10yb a 4yp (dyddiau Llun, Mawrth a Mercher) yn ystod pythefnos penodol. Telir £900 fel cyfraniad ariannol am eich amser i fynychu’r cwrs. Mae croeso hefyd i unrhyw un fynegi diddordeb i fynychu cyrsiau cyffredinol Cymraeg Gwaith, heb dderbyn cyfraniad.
Gallwch fynegi eich diddordeb trwy anfon y ffurflen gais (ynghyd â’r ffurflen monitro cydraddoldeb) at Nia, ein Cynhyrchydd, ar nia.skyrme@theatr.com erbyn 5.30pm ddydd Iau 3 Rhagfyr 2020. Byddwn ni’n cydlynu datganiadau o ddiddordeb gan y sector celfyddydau perffomio. Mae argaeledd cwrs sydd wedi’i deilwra’n arbennig at y sector celfyddydau perfformio yn ddibynnol ar niferoedd.
Ry’n ni’n awyddus i sicrhau bod y sesiynau’n hygyrch i bawb, ac mae hynny’n golygu trefniadau gwahanol ar gyfer gwahanol unigolion. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich gofynion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, cysylltwch â Rhodri Ll. Evans, Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn, ar rhodri.evans@nantgwrtheyrn.org.
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
*Nod Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle drwy gynnig opsiynau ar gyfer dysgu, gwella, a defnyddio sgiliau Cymraeg at bwrpas gwaith. Mae’r cynllun rhad ac am ddim hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i datblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cewch ragor o wybodaeth yma.
Ffurflen Mynegi Diddordeb: Lawrlwythwch yma
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb: Lawrlwythwch yma
Dogfennau Print Bras:
Ffurflen Mynegi Diddordeb (Print Bras): Lawrlwythwch yma
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb (Print Bras): Lawrlwythwch yma